Endaf Griffiths

Mae Endaf Griffiths wedi bod yn cymryd drosodd ein cyfrif Instagram yn Sioe Frenhinol Cymru wythnos yma fel Aelod Hŷn y Flwyddyn CFfI Cymru. Gallwch ddarllen mwy am ei rôl isod.

Beth yw dy rôl di fel llysgennad?

Fel Aelod Hŷn y Flwyddyn CFfI Cymru, fy mhrif rôl yw hyrwyddo’r holl gyfleoedd a phrofiadau mae’r mudiad yn eu cynnig i bobol ifanc rhwng 10 a 28 oed. O farnu stoc i goginio, o rygbi i ffensio, ac o siarad yn gyhoeddus i deithio’r byd, mae gan y mudiad lond horsebox i’w gynnig i ieuenctid cefn gwlad.

Yn ogystal â hyn, does dim angen bod yn ffermwr i fod yn Ffermwr Ifanc! Mae drysau’r mudiad yn agored i bawb.

Beth wyt ti'n fwynhau am y rôl?

Un o’r pethau gorau am fod yn Aelod Hŷn y Flwyddyn CFfI Cymru yw cael cwrdd ag aelodau o bob cwr o Gymru a darganfod beth mae mudiad y Ffermwyr Ifanc yn ei olygu iddyn nhw. Dwi bellach heibio’r 28 oed ac felly mae fy nghyfnod i fel aelod, yn anffodus, ar fin dod i ben, ond trwy’r rôl hon gallaf roi’n ôl i fudiad sydd wedi rhoi cymaint i mi’n bersonol ar hyd y blynyddoedd.

Heb y Ffermwyr Ifanc, fyddwn i ddim y person yr ydw i heddiw. Mae’r mudiad wedi fy ngalluogi i feithrin sgiliau bywyd, ennill hunanhyder, a gwneud ffrindiau oes – a’r cyfan am lai na £30 y flwyddyn! I unrhyw Gardi, dyna beth yw bargen!

Pam mae'r Gymraeg yn bwysig i ti ac i'r Ffermwyr Ifanc?

Mae mudiad y Ffermwyr Ifanc nid yn unig yn cynnig cyfleoedd a phrofiadau amhrisiadwy i bobol ifanc, mae hefyd yn tynnu i mewn y gymuned ehangach. Ac mewn nifer o ardaloedd gwledig, mae’r Clwb Ffermwyr Ifanc yn rhan bwysig o’r gymuned.

Ym Mhontsiân yng Ngheredigion, lle mae fy Nghlwb Ffermwyr Ifanc i, rydyn ni’r Ffermwyr Ifanc lleol yn teimlo ei bod hi’n ddyletswydd arnon ni i gadw’r gymuned i fynd – ac yn falch o wneud hynny. Ymhlith y digwyddiadau a gynhelir ganddon ni i’r gymuned bob blwyddyn mae noson tân gwyllt ym mis Tachwedd, noson o ganu carolau adeg y Nadolig, a chyngerdd adloniant ym mis Chwefror.

O ran y Gymraeg wedyn, mae CFfI Pontsiân, sydd â thua 60 o aelodau, yn cynnal ei holl weithgareddau trwy gyfrwng yr iaith. Yng Ngheredigion yn unig, ymfalchïwn yn y ffaith fod pob un o’n 19 o glybiau yn rhai Cymraeg eu hiaith, a cheir nifer o glybiau tebyg mewn siroedd eraill ledled Cymru hefyd. Fel aelodau, rydym yn mwynhau ac yn dysgu gyda’n gilydd drwy’r Gymraeg.  

Sut wyt ti'n defnyddio dy Gymraeg?

Cefais fy magu ar aelwyd Gymraeg a mynychu ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg, cyn mynd i Brifysgol Aberystwyth i astudio am radd yn y Gymraeg. Cyfieithydd a golygydd llyfrau plant ydw i wrth fy ngalwedigaeth (na, nid ffermwr!) ac felly dwi’n defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol. Yn wir, dwi’n byw a bod trwy gyfrwng yr iaith.

Y peth gorau am y Sioe Frenhinol?

Mae’r Sioe yn ddathliad blynyddol o amaeth a bywyd cefn gwlad. Ond does dim angen bod yn ffermwr i’w mwynhau, gan fod rhywbeth at ddant pawb yno. Mae hefyd yn gyfle i gwrdd â hen ffrindiau a gwneud ffrindiau newydd o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Mae’n bedwar diwrnod o fwynhau gyda’n gilydd.

Dy gyngor di i eraill sydd eisiau defnyddio'u Cymraeg?

Dim ots pa mor rhugl wyt ti, paid ag ofni ei defnyddio hi. Mae’r Gymraeg yn iaith i bob un o bob gallu.