- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn dymuno deall rhagor am ble mae oedolion yng Nghymru (16 oed a hŷn) yn defnyddio’r Gymraeg, sut maen nhw’n teimlo am yr iaith, a faint o gyfleoedd sydd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn gwahanol sefyllfaoedd.
Cynhelir yr arolwg hwn gan Beaufort Research, asiantaeth Ymchwil Marchnad annibynnol, ar ran Comisiynydd y Gymraeg.
Dylai'r arolwg gymryd llai na 10 munud i'w gwblhau. Gallwch gwblhau'r arolwg yma.
Bydd yr arolwg yn cau ar y 10 Tachwedd.