Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi creu cyfres o ffilmiau byrion sydd yn amlygu arferion effeithiol o safbwynt y Gymraeg mewn amryw o gyrff ar draws Cymru.

Yn y darn blog isod mae Lisa Pugh o’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru yn sôn am sicrhau bod eu hymgyrchoedd marchnata yn gweithio’n effeithiol yn ddwyieithog.

Yn y gorffennol, byddai ymgyrchoedd yr Asiantaeth yn cael eu comisiynu a’u creu gan y Tîm Cyfathrebu yn Lloegr, ac nid oedd y Gymraeg bob amser yn cael digon o sylw.

Yr hyn wnaethon ni fel Uned Iaith oedd pwysleisio’r angen i ystyried y Gymraeg o’r cychwyn cyntaf fel ein bod ni’n gallu cyfrannu at y broses greadigol, yn gweld y cysyniadau ar gyfer yr ymgyrchoedd yn gynnar, ac yn gallu rhagweld unrhyw broblemau a allai godi a mynd ati i’w datrys yn gynnar.

Un o’r pethau pwysicaf oedd sicrhau bod perthynas gadarnhaol ac ymarferol rhyngom ni a’r Tîm Cyfathrebu. Roedd hyn yn ei dro yn golygu eu bod nhw’n barod i ymddiried ynon ni wrth drafod, er enghraifft, y cynulleidfaoedd targed, y cynllun hyrwyddo a’r elfennau creadigol yng Nghymru.

Fe ddaethon ni i gytundeb fod dwyieithrwydd yn rhan hanfodol o’r briff cychwynnol, ac yn rhan o unrhyw ddogfennau tendr fyddai’n cael eu hanfon at gontractwyr yn y dyfodol.

Wrth gwrs roedd hyn yn golygu bod angen i ni gyfrannu’n sylweddol, ond drwy gydweithio fel hyn, gallem sicrhau bod y gyllideb ganolog yn ddigon i dalu am holl elfennau’r ymgyrch yn y ddwy iaith. Roedd hyn yn sicrhau mwy o werth am arian, sy’n bwysig gan ein bod ni’n sôn am arian cyhoeddus.  

Dyw e ddim yn hawdd bob amser, oherwydd gwahaniaethau diwylliannol a gwleidyddol rhwng y ddwy wlad. Mae hefyd yn gallu bod yn anodd pan fydd y tîm yn Lloegr am weithio gyda dylanwadwyr (influencers) ar ein sianeli ni a dyw hynny ddim yn taro deuddeg bob tro yng Nghymru. Serch hyn, rydyn ni wedi cael llwyddiant wrth ddefnyddio dylanwadwyr o Gymru, ac oherwydd bod yna ymddiriedaeth rhyngom ni a Lloegr, roedden nhw’n barod i dderbyn y byddai rhywfaint o wahaniaethau yn yr ymgyrch yn y ddwy iaith, ac i weithio gyda ni ar hynny.   

Y cyngor y byddwn i’n roi i eraill mewn sefyllfa debyg yw bod angen i chi fod yn rhan o’r ymgyrch o’r cychwyn cyntaf, ac mae angen i’ch llais gael ei glywed, achos chi sy’n adnabod eich cynulleidfa orau, a chi sy’n gwybod beth sy’n mynd i weithio orau yng Nghymru.