- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook
Cyflwynwyd Bil Amaethyddiaeth (Cymru) ar 26 Medi 2022. Mae’n arwyddocaol gan mai dyma’r tro cyntaf i’r Senedd ystyried deddfwriaeth i gyflwyno polisi amaethyddol ‘cynnyrch Cymru’.
Mae’n golygu goblygiadau ar gyfer ffermwyr Cymru, yr amgylchedd ac economi a diwylliant Cymru.
Mae’r blog hwn yn amlinellu pam mae angen y Bil, a’i oblygiadau ar gyfer y Gymraeg.
Pam mae angen Bil Amaethyddiaeth (Cymru)?
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Bil hwn oherwydd bod y Deyrnas Unedig, a Chymru hefyd felly, wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd. Fel y dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn 2020:
“Mae penderfyniad y Deyrnas Unedig i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd wedi cael effaith anferth arnom ni i gyd. I Gymru, rhai o’r canlyniadau mwyaf gweladwy o bosibl fydd y newidiadau i ffermio a’r cymorth a roddir i ffermwyr.”
Mae’r ddeddfwriaeth hon yn arbennig o bwysig oherwydd bod 90 y cant o dir Cymru yn dir amaethyddol.
Beth yw bwriad y Bil?
Mae gan y Bil sawl nod, gan gynnwys cynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, ymateb i argyfwng yr hinsawdd a gwella ecosystemau a chefn gwlad Cymru. Mae’r Bil yn cyflwyno pedwar amcan rheoli tir yn gynaliadwy. Mae’r pedwerydd yn rhoi sylw i’r Gymraeg:
“cadw a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hyrwyddo mynediad y cyhoedd iddynt a’u hymgysylltiad â hwy, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd” (Rhan 1, Adran 1 (5)).
Beth yw barn Comisiynydd y Gymraeg?
Croesawodd y Comisiynydd benderfyniad y Llywodraeth i gynnwys y Gymraeg yn yr amcanion. Y diwydiant amaethyddol yw’r sector cyflogaeth â’r gyfran uchaf o siaradwyr Cymraeg. Mae busnesau amaethyddol yn cynnal llawer o gymunedau gwledig lle mae’r Gymraeg yn iaith naturiol bob dydd. Mae’n hollbwysig, felly, cynnal y gymuned amaethyddol a hyrwyddo’r Gymraeg o’i mewn.
Mae’r Comisiynydd wedi ymateb i nifer o ymgynghoriadau ynglŷn ag amaethyddiaeth a gellir darllen mwy amdanynt trwy glicio ar y dolenni yn yr adran ‘Darllen pellach’ isod. Rydym wedi bod yn gyson ein barn fod angen i gymunedau Cymraeg fod yn ganolog i’r ddeddfwriaeth. Rydym wedi pwysleisio pwysigrwydd y sector amaethyddol i hyfywedd y Gymraeg, a’r angen i gynllunio’n bwrpasol i hyrwyddo’r Gymraeg, casglu data am y Gymraeg a monitro effaith polisi. Rydym hefyd wedi tynnu sylw at werth y Gymraeg fel arf marchnata unigryw a all gynyddu potensial y farchnad trwy wneud i gynnyrch sefyll allan, atgyfnerthu tarddiad lleol cynnyrch ac ymddangos yn arwydd o ansawdd.
Yn ein hymateb i ymgynghoriad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar y Bil Amaethyddiaeth yn 2022, gofynnom am i’r Bil wneud y canlynol yn orfodol:
- gosod dangosyddion a thargedau penodol i’r Gymraeg, fydd yn plethu ag amcanion strategaeth Cymraeg 2050
- casglu data ynglŷn â’r Gymraeg er mwyn gallu dadansoddi sefyllfa’r iaith yn y sector amaethyddol
- cynnwys y Gymraeg yn y rhestr o ddibenion y caiff Gweinidogion Cymru bŵer i ddarparu cymorth ar eu cyfer.
Rydym wedi gwneud yr un cais mewn gohebiaeth at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths.
Beth nesaf?
Dyfynnodd y Pwyllgor ein tystiolaeth a’r tri chais uchod yn ei adroddiad ar yr ymgynghoriad, gan wneud argymhelliad penodol i gyflwyno gwelliannau i’r Bil mewn perthynas â’r Gymraeg:
“Dylai’r Gweinidog gyflwyno gwelliannau i’r Bil i gryfhau ei ddarpariaethau ar gyfer cynnal a hybu’r Gymraeg: gall hyn gynnwys drwy ei hychwanegu at y rhestr o ddibenion yn adran 8, ac ymrwymo i gynnwys dangosyddion a thargedau penodol er mwyn mesur canlyniadau yn well.” (Argymhelliad 11)
Rydym yn falch fod y Pwyllgor wedi nodi ein sylwadau ac wedi cyhoeddi:
“Dylai diogelu a hyrwyddo’r Gymraeg fod yn amlwg drwy’r Bil hwn, ac mae’r Pwyllgor am weld hyn yn cael ei blethu’n glir drwy’r ddeddfwriaeth.” (100)
Rydym wedi gohebu eto â’r Gweinidog yn dilyn hyn a byddwn yn parhau i graffu ar y Bil ar ei daith trwy’r Senedd.
Darllen pellach
Erthygl gan wasanaeth Ymchwil y Senedd: Y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) - Crynodeb o'r Bil (senedd.cymru)
Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru
- Papur Gwyn Amaeth (Cymru) (2020-21)
- Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Cynigion Bras ar gyfer 2025 (2022)
Ymatebion y Comisiynydd
- Papur Gwyn Amaeth (Cymru) (comisiynyddygymraeg.cymru)
- Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Cynigion Bras ar gyfer 2025 (comisiynyddygymraeg.cymru)
Ymgynghoriad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar Fil Amaethyddiaeth (Cymru) (2022)
Ymateb y Comisiynydd i ymgynghoriad y Pwyllgor
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar y Bil Amaethyddiaeth (2023)
Y Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor (senedd.cymru)