- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook

Mae adroddiad newydd a gyhoeddir heddiw (30 Mai) gan Gomisiynydd y Gymraeg yn rhoi darlun i ni o’r defnydd o sut mae plant a phobl ifanc o fewn a thu allan i iard yr ysgol yn defnyddio’r Gymraeg. Roedd y defnydd o'r Gymraeg o fewn yr ysgol a’r agweddau tuag at yr iaith yn galonogol ond roedd y defnydd ohoni gan y bobl ifanc yn gymdeithasol gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol yn gyfyngedig gyda chyfran sylweddol o'r rhai a holwyd yn dweud mai Saesneg oedd eu prif iaith wrth ddefnyddio’r cyfryngau hynny.
Cafodd holiaduron eu llenwi gan dros 1600 o blant a phobl ifanc 11-21 oed ar draws Cymru, a chynhaliwyd chwe grŵp ffocws. Y nod oedd ceisio deall mwy am arferion ieithyddol plant a phobl ifanc wrth iddynt ymwneud â’u teuluoedd a’u ffrindiau mewn gwahanol weithgareddau y tu allan i’r ysgol, wrth gyfathrebu ar lein, ar y cyfryngau cymdeithasol, ac wrth dderbyn gwasanaethau.
Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, bydd yr wybodaeth a gasglwyd yn gymorth i lywio gwaith y Comisiynydd, ac eraill, i’r dyfodol,
“Mae plant a phobl ifanc yn hollbwysig i ddyfodol yr iaith Gymraeg. Mae’r gwaith ymchwil eang hwn yn cynnig darlun i ni o sut mae pobl ifanc yn defnyddio’r Gymraeg.
“Mae ein cynllun strategol pum mlynedd a gyhoeddwyd yn gynharach eleni yn ymateb i brif gasgliadau’r ymchwil hwn, ac yn amlinellu sut y byddaf yn mynd ati i annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg ymysg yr ifanc. Mae’r ymchwil hefyd yn cynnig sail tystiolaeth allweddol i ni wrth i ni lunio ein cynigion maniffesto ar gyfer etholiad Senedd Cymru yn 2026, gaiff ei gyhoeddi o fewn y misoedd nesaf.
“Does dim dwywaith fod yr adroddiad yn amlygu heriau sylweddol yn enwedig ym maes cyfryngau cymdeithasol ond mae hefyd yn adnabod cyfleoedd, ym maes chwaraeon er enghraifft, a byddaf yn blaenoriaethu creu a chryfhau partneriaethau strategol er mwyn datblygu’r cyfleoedd hynny ymhellach.”
Yn ôl Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru, mae angen ehangu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol,
“Mae'n amlwg bod nifer helaeth o ymatebwyr nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg yn aml iawn y tu allan i'r ysgol ond sy’n gyffredinol gefnogol i'r Gymraeg ac yn dymuno cael mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith.
“Yn y mentrau rydym yn gyson yn chwilio am gyfleoedd pellach i ehangu ein gweithgareddau cymunedol er mwyn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol. Mae’r adroddiad yn dangos fod y gwaith hwnnw yn hollbwysig a byddwn yn gweithio gyda’r Comisiynydd a phartneriaid eraill i’w ddatblygu ymhellach yn y dyfodol.”
Mae'r adroddiad yn amlygu'r angen i'r Llywodraeth, ynghyd â sefydliadau eraill, i barhau â'r gwaith o ystyried dulliau o newid agwedd ac ymddygiad er mwyn annog mwy o blant a phobl ifanc i ystyried y Gymraeg fel rhywbeth sy'n perthyn iddyn nhw.
Mae hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn bwysig, yn ôl Efa Jones sydd yn fyfyrwraig blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol ac yn gyn ddisgybl yn ysgol Bro Dur yn ardal yr Eisteddfod,
“Roeddwn i a fy ffrindiau yn siarad Cymraeg gyda’n gilydd yn yr ysgol ond cymysgedd o Gymraeg a Saesneg fyddwn ni’n siarad pan allan o’r ysgol. Fi’n credu mai cyfryngau cymdeithasol sydd yn gyfrifol am hynny gan mai Saesneg yw’r brif iaith sydd yn cael ei defnyddio yno.
“Falle bydden ni yn fwy parod i siarad Cymraeg wrth ddefnyddio gwasanaethau lleol pe bai rheiny yn cael eu marchnata yn well. Ond yn gyffredinol rydyn ni’n falch ein bod ni yn gallu siarad Cymraeg ac am barhau i wneud hynny.”
Ymysg rhai o brif ganfyddiadau‘r adroddiad mae’r canlynol:
-
Mae’r defnydd cyffredinol o'r Gymraeg gan blant a phobl ifanc y tu allan i'r ysgol yn gyfyngedig
-
Mae agweddau cadarnhaol tuag at y Gymraeg yn amlwg ymysg siaradwyr Cymraeg rhugl a'r rhai a ddysgodd y Gymraeg ar yr aelwyd, gyda'r mwyafrif yn falch o'u gallu i siarad Cymraeg
-
Mae'r gyfundrefn addysg yn chwarae rhan allweddol wrth gynnig cyfleoedd i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg
-
Mae plant a phobl ifanc yn fwy tebygol o ddefnyddio'r Gymraeg mewn gweithgareddau chwaraeon, yn enwedig gyda hyfforddwyr ac arweinwyr
-
Mae'r defnydd o'r Gymraeg wrth gyfathrebu ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn gyfyngedig, gyda'r mwyafrif yn defnyddio'r Saesneg oherwydd ei fod yn haws ac yn cyrraedd cynulleidfa ehangach
Gan ddefnyddio'r ymchwil hwn, mae NSPCC Cymru wedi cyhoeddi papur briffio sy'n ystyried defnydd plant o'r cyfryngau cymdeithasol yn y Gymraeg o safbwynt diogelu. Dywedodd Cecile Gwilym, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus NSPCC Cymru,
"Mae adroddiad Comisiynydd y Gymraeg yn cynnig rhywfaint o'r unig dystiolaeth hyd yma am ddefnydd plant a phobl ifanc o'r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol, gan roi cipolwg pwysig ar eu profiadau a sut maen nhw'n cyfathrebu ar-lein drwy'r cyfrwng hwn.
"Rydym yn credu bod angen dadansoddi'r canfyddiadau'n ofalus i ofyn a yw mesurau sydd wedi'u cynllunio i amddiffyn plant ar y llwyfannau hyn yn berthnasol yn gyfartal pan fydd plant yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg neu mewn cyfuniad o Gymraeg a Saesneg.
"Mae'r canfyddiadau'n dangos bod hwn yn faes sy'n gofyn am ymchwil a sylw pellach yn enwedig gan Lywodraeth Cymru, Ofcom a chwmnïau technoleg.
"Edrychwn ymlaen at weithio gyda swyddfa'r Comisiynydd dros y flwyddyn nesaf i ddatblygu'r gwaith hwn ymhellach."
Mae canlyniadau gwaith ymchwil y Comisiynydd yn atgyfnerthu casgliadau adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ynghylch yr angen am fwy o gynllunio ieithyddol cymunedol egnïol a phwrpasol. Bydd swyddfa’r Comisiynydd yn mynd ati yn awr i gyfarfod a thrafod gydag amryw bartneriaid a sefydliadau perthnasol er mwyn gweithredu ar sail argymhellion y gwaith hwn.
Gallwch ddarllen yr adroddiad yn llawn yma a gallwch weld yr ystadegau yma.