Enwau Lleoedd Safonol Cymru

Blaenafon

Ffurf safonol
Blaenafon
Ffurf Saesneg
Blaenafon
Math
Anheddiad
Cod post
NP4
Cyfeirnod grid
SO2509
Awdurdod lleol
Torfaen

Nodiadau

Dyma’r ffurf a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, Rhestr o Enwau Lleoedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Mae angen rheswm da dros fynd yn groes i’w argymhellion.

Nid yw'r llythyren v yn rhan o'r wyddor Gymraeg. Gair Cymraeg yw afon ac nid yw fyth yn cael ei sillafu â v heddiw. 

Dylid anelu at arfer un ffurf yn unig pan nad oes ond llythyren neu ddwy o wahaniaeth rhwng y ‘ffurf Gymraeg’ a'r ‘ffurf Saesneg', gan dueddu at y ‘ffurf Gymraeg’. Dyma hefyd ddymuniad yr Arolwg Ordnans ac Awdurdodau'r Priffyrdd.

Yn ddelfrydol byddai’r ffurf Blaenafon yn unig yn cael ei defnyddio yn Gymraeg a Saesneg gan fod yr enw’n un Cymraeg a chan fod y ‘ffurf Saesneg’ yn cynrychioli sillafiad ansafonol. Dylid nodi, fodd bynnag, fod defnydd helaeth i’r ffurf Blaenavon, a bod yr awdurdod lleol yn arddel y ddwy ffurf yn swyddogol.

Image of Blaenafon