
Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad sicrwydd diweddaraf ac ymysg elfennau eraill gaiff eu trafod, mae’r angen i fynd i’r afael â gwasanaethau llafar gaiff eu cynnig drwy’r Gymraeg.
Mae’r adroddiad blynyddol hwn, sydd yn dwyn y teitl Codi'r Bar yn gyfle i adlewyrchu ar y ffordd y mae sefydliadau yn meddwl am y Gymraeg wrth lunio polisïau ac wrth gynllunio a chyflenwi gwasanaethau yn y Gymraeg. Er mwyn i bobl allu defnyddio’r Gymraeg yn naturiol bob dydd, mae rhaid i sefydliadau cyhoeddus, a sefydliadau eraill yng Nghymru, ddarparu a hyrwyddo gwasanaethau, gweithredu’n fewnol a chynllunio polisi sy’n cefnogi cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.
Er bod lefelau cydymffurfiaeth yn gyffredinol wedi gwella, yn enwedig ymysg cyrff sydd wedi dod o dan Safonau’r Gymraeg ers amser, noda’r adroddiad fod angen mynd i’r afael â‘r her o greu awyrgylch lle gellir defnyddio’r Gymraeg yn naturiol bob dydd. Mae hyn yn golygu gwella’r gwasanaethau a gaiff eu cynnig ar lafar i bobl, boed hynny dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.

Ymysg y prif ganfyddiadau o’r adroddiad, mae 95% yn derbyn cyfarchiad yn y Gymraeg wrth wneud galwad ffôn i sefydliad cyhoeddus, 90% o negeseuon Twitter a Facebook sefydliadau cyhoeddus ar gael yn Gymraeg, ac mae 72% yn cytuno bod gwasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yn gwella.
Elfen bryderus ddaeth i’r wyneb o’r adroddiad, serch hynny, oedd fod canran sylweddol o siaradwyr Cymraeg wedi cael profiad o rywun arall yn eu hatal rhag siarad yr iaith yn eu bywydau bob dydd. Nododd 18% eu bod wedi profi hyn dros y 12 mis diwethaf ond roedd hynny yn cynyddu i 29% o’r rheiny a holwyd rhwng 16 a 34 oed.
Gallwch weld mwy o’r canfyddiadau yn y ffeithlun yma a gellir darllen yr Adroddiad llawn yma.