Cynnig Cymraeg Logo

Mae heddiw (12 Mai) yn cychwyn ar gyfnod o ddathlu i’r busnesau a’r elusennau hynny sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg. Ymysg y rhai diweddaraf sydd wedi ymrwymo i’r Cynnig Cymraeg y mae Ffilm Cymru, Pennotec, a Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru. 

 

Cydnabyddiaeth swyddogol y Comisiynydd yw’r Cynnig Cymraeg a chaiff ei rhoi i sefydliadau sydd wedi cydweithio â swyddogion y Comisiynydd i gynllunio darpariaeth Gymraeg. 

 

Mae eleni yn nodi carreg filltir bwysig i’r Cynnig Cymraeg wrth i’r cynllun ddathlu ei bumed penblwydd ac erbyn hyn mae dros 160 o sefydliadau wedi ei dderbyn, yn fusnesau, elusennau a sefydliadau trydydd sector. 

 

Un o'r rhai cyntaf i dderbyn y Cynnig Cymraeg oedd cwmni cyfreithiol JCP sydd â swyddfeydd ar draws de a gorllewin Cymru. 

 

Dywedodd Cyfarwyddwr a Chydlynydd y Gymraeg gyda Chyfreithwyr JCP, Meinir Davies, 

“Mae nifer o’n cydweithwyr yma yng Nghyfreithwyr JCP yn siarad Cymraeg ac rydym wedi rhoi’r dewis i’n cleientiaid i gysylltu gyda ni yn y Gymraeg ers blynyddoedd.  

 

“Bu’n ganolog i ethos JCP erioed ein bod yn rhan annatod o’r cymunedau yr ydym ni’n eu gwasanaethu, ac mae’r gallu i gyfathrebu â’n cleientiaid yn yr iaith y maen nhw fwyaf cartrefol ynddi yn rhan allweddol o’r ymagwedd honno. 

 

“Rydym yn falch iawn o fod yn un o'r rhai cyntaf i dderbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg bum mlynedd yn ôl ac rwy’n falch o allu dweud fod ein hymrwymiad i’r Gymraeg yr un mor gryf ag erioed.”  

 

Drwy gydol yr wythnos hon, caiff sylw ei roi i’r sefydliadau hynny sydd wedi derbyn y Cynnig Cymraeg gan annog eraill i fynd amdani. 

 

Yn ôl Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, mae’r cynllun hwn yn gyfle gwych i sefydliadau ddangos eu hymrwymiad i’r Gymraeg, 

“Mae’r Cynnig Cymraeg yn rhoi cyfle i fudiadau godi ymwybyddiaeth am yr hyn y maent yn ei gynnig drwy’r Gymraeg a thrwy wneud hynny y gobaith yw y bydd yn arwain at gynnydd yn y defnydd o wasanaethau Cymraeg.  

 

“Mae’n hollbwysig fod y gwaith o hyrwyddo a hybu’r Gymraeg drwy ein gwaith rheoleiddio yn y sector gyhoeddus a’n hanogaeth yn y sector breifat a’r trydydd sector yn cyd-redeg. Mae’r ddwy elfen yn angenrheidiol os ydym am weld cynnydd mewn defnydd naturiol o’r iaith Gymraeg yn ein bywydau bob dydd. 

 

“Dros y pum mlynedd diwethaf mae’r ymateb wedi bod yn galonogol iawn ac rwy’n falch o weld cymaint o amrywiaeth yn y sefydliadau sydd wedi derbyn y gymeradwyaeth.” 

 

Un elusen sydd yn dathlu derbyn y gymeradwyaeth yr wythnos hon yw Ymchwil Canser Cymru. Mae gwaith yr elusen ymchwil canser Gymreig wedi cyfrannu at welliannau helaeth mewn gwasanaethau canser i bobl yn byw gyda’r clefyd ar hyd Cymru. 

 

Mae’r elusen yn teimlo’n gryf fod am weithredu yn ddwyieithog gan fod ei gwaith yn effeithio ar gynifer o bobl fel yr eglura ei Bennaeth Cyfathrebu a Marchnata – Iwan Rhys Roberts,  

 

“Fel elusen sydd wedi ymroi yn gyfan gwbl i ariannu ymchwil canser yng Nghymru, mae’n hollbwysig ein bod yn medru gweithredu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Erbyn 2030, amcangyfrifir y bydd canser yn effeithio ar un o bob dau o boblogaeth Cymru. 

 

“Mae ein hymchwil yn digwydd ar hyd ac ar led Cymru, yn ein cymunedau, ein hysbytai, mewn priyfysgolion a labordai. Rydym wedi ymroi i allu gweithredu’n ddwyieithog, ac rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg fel arwydd o’r ymrwymiad hwnnw. 

 

“Rydym yn edych ymlaen at barhau i gydweithio gyda swyddfa Comisiynydd y Gymraeg gan ddatblygu ein gwasanaethau Cymraeg yn y blynyddoedd sydd i ddod.” 

 

Ers lansio’r cynllun ym mis Mehefin 2020, mae cydnabyddiaeth wedi ei rhoi i dros 160 o fusnesau ac elusennau, ac mae swyddfa’r Comisiynydd yn gweithio gyda nifer o sefydliadau eraill ar ddatblygu cynlluniau.  

Mae mwy o wybodaeth am y Cynnig Cymraeg ar gael yma.