- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook
Mae Eisteddfod yr Urdd bron yma ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at fod yn Meifod am yr wythnos. Gobeithio y cawn gyfle i sgwrsio â llawer ohonoch ar ein stondin.
Byddwn yno o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Yn ogystal a chyfleoedd bob dydd i chi ddod i siarad gyda’r staff, defnyddio ein map enwau lleoedd rhyngweithiol, a chymryd rhan mewn helfa drysor gyda’r plant, bydd gweithgareddau arbennig yn cael eu cynnig gan ein partneriaid, a rhai sydd wedi derbyn y Cynnig Cymraeg.
Ddydd Llun a Gwener (27 + 31 Mai) bydd criw gwyddonol Xplore yn ymuno i gynnig llu o weithgareddau gwyddonol, cerddorol a rhyngweithiol.
Ddydd Mawrth, 28 Mai bydd yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Gȇm a Bywyd Gwyllt yn dod i gyflwyno prosiect arbennig am ylfinirod yn ardal y steddfod.
Elusen y flwyddyn Comisiynydd y Gymraeg, NSPCC Cymru, fydd ar y stondin dydd Mercher yn sôn am yr amryw gyfleoedd i wirfoddoli gyda’r elusen
Sioe lwyfan newydd a phecyn addysg
Ddydd Mercher, 29 Mai byddwn yn cyhoeddi pecyn addysg newydd a bydd perfformiad o’r sioe lwyfan, Geiriau. Sioe yw hon sydd wedi ei chomisiynu ar gyfer disgyblion iau ysgolion uwchradd gan gwmni Mewn Cymeriad. Bydd perfformiad o'r sioe ar stondin Llywodraeth Cymru am 2 o’r gloch gyda sgwrs i ddilyn gyda Chomisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, yr awdur Manon Steffan Ros a’r actor yn y cyflwyniad, Owen Alun.
Rhywbeth at ddant pawb! Beth am alw draw i’n gweld? Bydd croeso cynnes yn eich disgwyl.
Mae’r amserlen lawn i’w gweld yma.