Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn agosau ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at fod ym Moduan am yr wythnos a gobeithio y cawn gyfle i sgwrsio â llawer ohonoch ar ein stondin. 

Yn ychwanegol i’r cyfleoedd bob dydd i chi ddod i siarad gyda’r staff, rhyngweithio gyda’n map enwau lleoedd a gofyn unrhyw gwestiynau, bydd ganddon ni weithgareddau arbennig hefyd ar y stondin ac o gwmpas y maes. 

Dyma wrth gwrs fydd Eisteddfod Genedlaethol gyntaf Efa Gruffudd Jones fel Comisiynydd y Gymraeg ac ar fore Llun, 7 Awst am 11 yn Cymdeithasau 1, bydd hi yn rhan o drafodaeth banel yn edrych ar y defnydd o’r Gymraeg yn gweithle a’r gymuned. Yn ymuno â hi ar y panel fydd cynrychiolwyr o Gyngor Môn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Cadeirydd y sesiwn fydd y cyflwynydd a’r darlledwr Iwan Griffiths. 

Yna, ddydd Mercher, 9 Awst am 12 ym Mhabell Cytûn byddwn yn rhan o drafodaeth a drefnir gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Cymru a fydd yn edrych ar y manteision i elusennau o ddefnyddio’r Gymraeg yn eu hymgyrchoedd codi arian. 

Byddwn yn cyfrannu at nifer o ddigwyddiadau eraill felly cadwch olwg ar ein cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth bellach. 

Ar ein stondin bydd amrywiaeth o weithgareddau a nifer yn cael eu cynnig gan ein partneriaid a rhai sydd wedi derbyn y Cynnig Cymraeg. 

Ddydd Mercher, 9 Awst bydd cynrychiolwyr o NSPCC Cymru yn ymuno â ni a bydd cyfle i chi ddysgu am eu Cynnig Cymraeg, a'u gwaith yng Nghymru. Bydd gweithgareddau PANTS i'r plant ar y stondin, a chyfle i gwrdd â PANTSASORWS. Am 1 o’r gloch byddwn yn cyhoeddi enw elusen swyddogol y flwyddyn Comisiynydd y Gymraeg. 

Ddydd Iau, 10 Awst bydd Clybiau Plant Cymru yn ymuno â ni ar y stondin i gynnig amrywiaeth o weithgareddau hwyliog gan gynnwys helfa drysor, celf a chrefft a her lego i ddathlu diwylliant a threftadaeth gyfoethog Cymru. 

Yna, ddydd Gwener bydd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Gêm a Bywyd Gwyllt Cymru (GWCT Cymru) ar y stondin yn cynnal gweithgaredd rhyngweithiol ynglŷn â rhywogaethau gwahanol, eu henwau, eu pwysigrwydd a beth allwn ei wneud i’w helpu.  

Hefyd ddydd Gwener bydd Rhys Morgan Davies yn diddanu’r plant gyda chyfres o ganeuon adnabyddus a phoblogaidd Cymraeg, a bydd croeso i bawb ymuno.  

Rhywbeth at ddant pawb felly beth am alw draw i’n gweld – bydd croeso cynnes yn eich disgwyl.