Ddoe (11 Hydref) cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynlluniau ar gyfer Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg yn dilyn ymgynghoriad diweddar.

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn croesawu’r Cynllun a’r camau sydd wedi’u cymryd eisoes i geisio mynd i’r afael â phroblem ail gartrefi trwy’r drefn gynllunio a threthu, a’r cyhoeddiad diweddar am Arfor 2 a’r gyllideb o £11 miliwn i ddatblygu'r economi yng nghadarnleoedd y Gymraeg.

Mae gan Gomisiynydd y Gymraeg gyfrifoldebau penodol ym maes enwau lleoedd a byddwn yn darparu cyngor ar ffurfiau safonol enwau lleoedd Cymru yn rhan o’r ymdrech hanfodol i’w hamddiffyn a’i hyrwyddo. Rydym felly yn falch o weld ymestyn y gwaith ar enwau lleoedd yn y cynllun, ac edrychwn ymlaen at gyfrannu at y gwaith hwnnw.

Er mwyn gwireddu nodau’r cynllun cyfan, serch hynny, mae angen sicrhau bod cyllid ac adnoddau digonol ar gyfer gwireddu’r prosiectau sy’n rhan o’r cynllun. Mae angen hefyd sicrhau strwythur werthuso gadarn all ystyried y cynlluniau yn unigol ac fel cyfanwaith er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cyflawni’r amcanion er budd cymunedau Cymraeg ac y gellir rhannu arfer da ymysg cymunedau eraill.

Fel i ni nodi yn ein hymateb i’r ymgynghoriad, rydym yn parhau i bryderu am y pwysau a’r disgwyliadau sy’n cael eu rhoi ar unigolion a grwpiau cymunedol i ysgwyddo’r baich o weithredu nifer o elfennau’r cynllun. Mae heriau sylweddol i bobl gymryd rhan mewn prosiectau cymunedol ac er y bydd canllawiau ar gael fel rhan o’r cynllun, mae disgwyl y bydd o leiaf un o’r prosiectau yn ddibynnol ar wirfoddolwyr.

Mae’n bryder gennym nad yw’r Cynllun yn mynd i’r afael yn ddigonol â her fforddiadwyedd tai yn y cymunedau o dan sylw yn ogystal. Bydd rhaid mynd i’r afael â hyn ar fyrder yn y papur gwyn arfaethedig ynghylch yr hawl i lety addas, rhenti teg a dulliau newydd o wneud cartrefi yn fforddiadwy i'r rhai ar incwm lleol.

Tra’n cefnogi’r cam cyntaf pwysig hwn, edrychwn ymlaen at weld mwy o fanylder am y camau nesaf, yn ogystal â gweld gwaith y Comisiwn ar Gymunedau Cymraeg yn dwyn ffrwyth a’r Bwrdd Crwn Economi, Tai a’r Gymraeg yn cwrdd gyda’i gylch gwaith estynedig.

Gallwch ddarllen mwy am y pwnc hyn ar ein gwefan yma.