Model tŷ ac allweddi tŷ ar fwrdd

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn croesawu’r pecyn newydd o fesurau gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r niferoedd uchel o ail gartrefi yng Nghymru. 

Mae ail gartrefi a phrinder tai fforddiadwy yn ogystal ag allfudo, mewnfudo a diffyg cyfleoedd gwaith yn cael effaith sylweddol ar y Gymraeg mewn nifer o gymunedau. 

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiynydd, ‘Mae’r Comisiynydd yn cefnogi’r camau a gynigir heddiw i fynd i’r afael â’r broblem o ail gartrefi a thai gwyliau. Mae’r rhain yn cynnwys amrywio’r dreth trafodiadau tir mewn ardaloedd lle mae llawer o ail gartrefi; cyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer llety gwyliau tymor byr; cyflwyno dosbarthiadau defnydd newydd ar gyfer prif gartrefi, ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, a rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol orfodi perchnogion i wneud cais am ganiatâd cynllunio wrth newid dosbarth.’ 

Ychwanegodd y llefarydd, ‘Er hynny, bydd angen monitro'r datblygiadau hyn yn drylwyr gan ddefnyddio data cyfoes i ddeall eu heffaith, yn ogystal ag effaith newidiadau mewn patrymau prynu a gwerthu tai a mudo, ar gynaliadwyedd cymunedau. Gallai cyfyngiadau mewn un ardal annog cynnydd yn nifer yr ail gartrefi mewn ardaloedd eraill gerllaw. Bydd angen i'r Llywodraeth ac awdurdodau lleol felly fod hyblyg ac yn barod i addasu a gweithredu ar fyrder mewn meysydd ac ardaloedd eraill os bydd amgylchiadau'n newid.’

Ychwanegodd, ‘Er ein bod yn obeithiol y bydd cynigion y Llywodraeth yn cael effaith gadarnhaol y farchnad dai mewn cymunedau Cymraeg, rhaid hefyd fynd i’r afael â fforddiadwyedd tai a gallu pobl leol i gystadlu yn y farchnad dai. 

Am ragor o wybodaeth am farn y Comisiynydd ar ail gartrefi, cliciwch yma.