Pedwar o bobl yn sgwrsio a cherdded i lawr y grisiau

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi ei adroddiad sicrwydd diweddaraf a darlun cymysg sydd ynddo o safbwynt y ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg. Mae’r adroddiad blynyddol hwn, sydd yn dwyn y teitl Y Gymraeg fel ffordd o weithio yn gyfle i adlewyrchu ar y ffordd y mae sefydliadau yn meddwl am y Gymraeg wrth lunio polisïau ac wrth gynllunio a chyflenwi gwasanaethau yn y Gymraeg.

Noda’r adroddiad yr heriau sydd wedi ein hwynebu i gyd dros y blynyddoedd diwethaf yn sgil y pandemig. Mae nifer o gyrff wedi addasu yn llwyddiannus er mwyn cydymffurfio â dyletswyddau iaith, ond mae eraill nad ydynt wedi cymryd camau i’r cyfeiriad cywir, ac mae diffyg sylweddol wedi ei nodi mewn prosesau hysbysebu swyddi yn Gymraeg a recriwtio gweithlu dwyieithog.

Yn ôl Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, dangoswyd tipyn o oddefgarwch yn ystod y pandemig ond mae angen i’r sefyllfa newid,

“Does dim dwywaith fod cyrff wedi wynebu heriau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae hynny’n wir yn enwedig yn y sector iechyd. Ond mae angen i’r sector hwn yn benodol ystyried sut mae am gwrdd â gofynion y safonau gan fod ein canfyddiadau yn dangos ei fod yn perfformio’n sylweddol waeth na sectorau eraill.

“Mae’n angenrheidiol, os yw’r sefyllfa am wella, bod cydymffurfio gyda safonau’r Gymraeg yn cael lle blaenllaw yn y strategaeth ail godi.”

Ymysg y prif ganfyddiadau, mae 32% yn dweud bod y cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd wedi cynyddu, mae 84% o wefannau sefydliadau bellach ar gael yn y Gymraeg ac mae ‘na gynnydd wedi bod yng ngallu sefydliadau i ddarparu gwasanaeth Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol

Ond yn yr un modd mae 10% o’r siaradwyr Cymraeg a holwyd yn dewis peidio â defnyddio’r Gymraeg oherwydd diffyg argaeledd gwasanaethau. Caiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn 50% o hysbysiadau am swyddi ac mae’r ymchwil yn dangos y byddai mwy o bobl yn debygol o ddefnyddio’r Gymraeg pe bai  sefydliadau yn gwella’r ffordd y maent yn hwyluso a gwarantu gwasanaethau Cymraeg.

Mae’r maes recriwtio swyddi hefyd yn peri pryder i Gwenith Price,

“Gosododd y Comisiynydd her rai blynyddoedd yn ôl i sefydliadau i wella perfformiad wrth recriwtio gweithlu dwyieithog. Mae’n siom gweld nad yw hynny wedi digwydd. Os am ddenu a datblygu gweithlu sy’n medru’r Gymraeg rwyf o’r farn fod angen cymryd camau chwyldroadol.

“Nid rhywbeth negyddol yw safonau iaith – maent yno i ddangos parch tuag at ddewis iaith ac i alluogi siaradwyr ym mhob man i allu byw eu bywydau yn y Gymraeg. Mae gan sefydliadau cyhoeddus Cymru rôl flaenllaw i’w chwarae wrth sicrhau fod y Gymraeg yn ffynnu, ac mae‘r ffordd y maent yn cydymffurfio gyda dyletswyddau iaith yn allweddol bwysig.”

Gellir darllen yr Adroddiad llawn yma.