![Graffeg o wefan y Comisiynydd](/media/objo1a0u/cluniadur.png?crop=0,0.016256797620023973,0,0.01291301323391679&cropmode=percentage&width=650&height=430&rnd=133111791437330000)
Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad ar gyfer 2021-22 a darlun cymysg sydd ynddo o safbwynt y ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg.
Mae’r adroddiad blynyddol hwn, sydd yn dwyn y teitl Y Gymraeg fel ffordd o weithio yn gyfle i adlewyrchu ar y ffordd y mae sefydliadau yn meddwl am y Gymraeg wrth lunio polisïau ac wrth gynllunio a chyflenwi gwasanaethau yn y Gymraeg.
Rydym i gyd wedi wynebu heriau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf yn sgil y pandemig ac mae nifer o gyrff wedi addasu yn llwyddiannus er mwyn cydymffurfio â dyletswyddau iaith. Ond mae eraill nad ydynt wedi cymryd camau i’r cyfeiriad cywir, ac mae’r adroddiad yn nodi diffyg sylweddol mewn prosesau hysbysebu swyddi yn Gymraeg a recriwtio gweithlu dwyieithog.
![Graffeg o ffon symudol a chyfrifiadur](/media/s3cpixzf/2021-delwedd-02-gwyn.jpg?crop=0.0013465118432549293,0.14418328956060125,0,0.19479619226278747&cropmode=percentage&width=650&height=430&rnd=133111794510330000)
Ymysg y prif ganfyddiadau, mae 32% yn dweud bod y cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd wedi cynyddu, mae 84% o wefannau sefydliadau bellach ar gael yn y Gymraeg ac mae ‘na gynnydd wedi bod yng ngallu sefydliadau i ddarparu gwasanaeth Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ond mae 10% o’r siaradwyr Cymraeg a holwyd yn dewis peidio â defnyddio’r Gymraeg oherwydd diffyg argaeledd gwasanaethau. Caiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn 50% o hysbysiadau am swyddi ac mae’r ymchwil yn dangos y byddai mwy o bobl yn debygol o ddefnyddio’r Gymraeg pe bai sefydliadau yn gwella’r ffordd y maent yn hwyluso a gwarantu gwasanaethau Cymraeg.
Gallwch weld mwy o’r canfyddiadau yn y ffeithlun yma a gellir darllen yr Adroddiad llawn yma.