Mae PLANED yn gweithio gyda chymunedau ar draws Sir Benfro, Cymru ac Ewrop i wella ansawdd eu bywydau drwy ganolbwyntio ar y cyfleoedd, hyrwyddo eu potensial a’u helpu i wireddu eu dyheadau.

Darllenwch am eu profiad o dderbyn y Cynnig Cymraeg.

  • Pam ei fod yn bwysig fod PLANED wedi derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg?

Mae’r iaith Gymraeg yn rhan allweddol o ddiwylliant a hunaniaeth Sir Benfro, a dyna yw’r brif iaith yn rhai o’n cymunedau. Mae’n hanfodol ein bod yn cyfathrebu ac yn cynnig ein gwasanaethau yn iaith y mae’r cwsmer yn ei dewis. Rydym felly eisiau gwella ein sgiliau Cymraeg er mwyn cyrraedd anghenion ein cleientiaid ac yn teimlo fod rhoi cynllun ar waith yn ein galluogi ni i osod ac i weithio tuag at dargedau realistig a chlir.

  • Ydyw wedi gwneud gwahaniaeth i’ch gwaith?

Mae’r Cynnig Cymraeg wedi cael effaith bositif ar ein gwaith ac ar ddatblygiad proffesiynol aelodau o’r tîm yn barod. Mae’r tîm a’r ymddiriedolwyr wedi dod at ei gilydd i gynnal awdit o’n sgiliau iaith Gymraeg ac wedi canfod y canlynol:

  • Mae 85% ohonom yn cyfeirio ymholiadau Cymraeg at ein cydweithwyr. Rydym nawr yn creu taflen gyswllt benodol i roi cyfarwyddiadau clir. Mae’r ymateb yn awgrymu y dylem i gyd fod yn gweithio’n galetach i gyfarch ymwelwyr a chymryd ymholiadau’n ddwyieithog a chynyddu faint o Gymraeg rydym yn ei ddefnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn dogfennau. Un syniad a gafwyd oedd creu taflen o frawddegau Cymraeg defnyddiol yn cynnwys cyfarchion cyffredinol a thermau perthnasol i’r gwaith. Sut ydych chi wedi codi ymwybyddiaeth o’ch Cynllun Datblygu’r Gymraeg ymysg eich staff?

O’n awdit rydym yn gwybod fod 5 aelod o’n staff yn awyddus i ddysgu Cymraeg bellach, yn ogystal â’n dysgwyr presennol. Mae hyn yn newyddion gwych ac mae yna sawl cyfle iddynt ddysgu Cymraeg ar hyn o bryd. Rydym wedi cynnig argymhellion ar gyfer hyfforddiant lleol ac ar-lein i’r tîm ac wedi croesawu sgwrs gyda’u rheolwyr llinell i drafod ffyrdd y gall PLANED gefnogi eu dysgu.

Mae nifer o’n staff hefyd wedi dangos diddordeb mewn cymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol Cymraeg a sesiwn rhannu sgiliau. Rydym yn bwriadu cynnal sesiwn flasu anffurfiol yn yr haf.

  • Disgrifiwch y broses o baratoi Cynllun Datblygu’r Gymraeg o’r penderfyniad i baratoi cynllun i dderbyn cydnabyddiaeth gan y Comisiynydd.

Roedd Awel o’r tîm Hybu a swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn rhoi llawer o anogaeth i ni ddechrau edrych ar greu Cynllun Datblygu’r Gymraeg a chyn i mi sylweddoli roedd llawer o’r manylion a’r targedau mewn lle. Fe wnaeth y cynllun roi esgus i ni gael sgyrsiau roeddwn angen eu cael am ein Cynnig Cymraeg a thrafod unrhyw beth oedd ar goll yn ein darpariaeth. Mae’n fuddiol iawn cael cynllun strwythuredig a thargedau cyraeddadwy i anelu tuag atynt..

  • Oes gyda chi unrhyw gyngor i sefydliadau eraill sy’n ystyried gweithio tuag at y Cynnig Cymraeg?

Ewch amdani! Fe wnewch chi sylweddoli fod y gwaith gweinyddol yn fuddsoddiad da ac mi fyddwch yn falch o allu dweud wrth bobl am eich Cynnig Cymraeg a’ch Cynllun Datblygu’r Gymraeg! Dwi wedi argymell y cynllun i sefydliadau eraill achos mae o’n gymaint mwy na pholisi  - mae o’n gyfle i fanteisio ar gryfderau eich sefydliad a gwneud gwelliannau amhrisiadwy sydd o fudd i bawb yn hir dymor.

Block background image

Darganfod mwy am y Cynnig Cymraeg

Cynnig Cymraeg