- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook
Mewn partneriaeth â’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol fe wnaethom drefnu cyfres o ddigwyddiadau undydd a fu’n teithio Cymru gan edrych ar sut y gall sefydliadau cyhoeddus greu cynnwys dwyieithog a hyrwyddo’r gwasanaethau hynny i’w defnyddwyr .
Roedd y sioe deithiol yn cynnwys cyflwyniadau, sesiynau ymarferol a thrafodaethau a rhoddwyd cyfle i fynychwyr rannu eu profiadau, gwneud cysylltiadau, dysgu oddi wrth ei gilydd a hefyd glywed gan y rhai sydd wedi gwella eu cynnwys a’u gwasanaethau eu hunain drwy’r broses gydweithredol o ysgrifennu triawd.
Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, y gobaith yw y bydd y digwyddiadau hyn yn hwb i sefydliadau wrth gynllunio gwaith yn y dyfodol,
“Mae ein hymchwil yn dangos fod y gwasanaethau Cymraeg sy’n cael eu cynnig gan sefydliadau cyhoeddus yn cynyddu o hyd, ac mae’n bwysig felly sicrhau cynnydd yn y defnydd o’r gwasanaethau hynny.
“Mae angen rhoi egni i gynllunio a meddwl o’r newydd sut mae darparu gwasanaethau Cymraeg syml a hawdd eu deall sy’n rhoi’r defnyddiwr yn ganolbwynt. Gobeithio bod y digwyddiadau hyn wedi bod yn sbardun i ni gyd ystyried sut i ddylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i’r dyfodol.”
Cynhaliwyd y digwyddiadau yng Nghaerdydd, Caerfyrddin a Llanelwy a chynhaliwyd un yn rhithiol yn ogystal.
Yn ôl Myra Hunt, Cyd-Brif Swyddog Gweithredol y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol roedd y digwyddiadau hyn yn brawf o'r awch sydd gan sefydliadau cyhoeddus i wella’n barhaus,
“Mae’n gyfnod heriol iawn i’r sector gyhoeddus ond mae hefyd yn sector sydd yn awyddus i ddatblygu’n gyson ac yn awyddus i wella ar y gwasanaethau y maent yn eu cyflenwi i’w defnyddwyr.
“Roedd bod yn bresennol yn y digwyddiadau a theimlo’r awydd i ddatblygu gwasanaethau lle mae’r defnyddiwr yn ganolbwynt i bopeth yn wych. Gobeithio i’r holl fynychwyr gael yr un wefr ac y gallwn symud ymlaen gyda’n gilydd yn hyderus i’r dyfodol.”
Un o’r elfennau a drafodwyd yn y digwyddiadau oedd Ysgrifennu Triawd ac fe wnaethom gynhyrchu ffilm newydd gyda’r Ganolfan a Chyfoeth Naturiol Cymru yn dangos hyn ar waith.