Yn dilyn cais gan unigolyn, mae ymchwiliad diweddar gan Gomisiynydd y Gymraeg wedi dyfarnu bod Bupa Dental Care wedi ymyrryd â’i ryddid i ddefnyddio’r Gymraeg tra roedd yn gweithio yn un o ddeintyddfeydd y cwmni.

Dyfarnodd y Comisiynydd bod Bupa wedi ymyrryd gyda’i ryddid drwy fynegi mewn e-bost, ac mewn llythyr dilynol ato, na ddylai gyfathrebu yn y Gymraeg gyda staff eraill.

Y rhesymau a roddwyd gan Bupa Dental Care dros yr ymyrraeth oedd bod angen osgoi gwallau gweinyddol a bod defnyddio’r Gymraeg yn yr achos dan sylw yn gyfystyr â thorri cytundeb swydd.

Nid oedd y Comisiynydd o’r farn bod cyfiawnhad i ymyrryd gyda’r rhyddid a oedd gan yr unigolyn yma i gyfathrebu yn Gymraeg gyda’i gyd-weithwyr,

“Ni ddarganfûm unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod unrhyw wallau wedi digwydd o ganlyniad i ddefnydd yr unigolyn nac unrhyw aelod staff arall o’r Gymraeg.

“Ni ddeuthum o hyd i unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod defnydd yr unigolyn o’r Gymraeg gyda staff yn cyfateb ag unrhyw doriad yn ei gytundeb gwaith.

“Mae Mesur y Gymraeg yn rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru ac yn rhoi rhyddid i bobl yng Nghymru fyw mewn cymdeithas lle gallant ddefnyddio’r Gymraeg yn ddi-rwystr yn eu bywyd personol ac yn y gweithle.

“Felly, dylai Bupa wneud mwy i gydnabod, parchu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg rhwng staff yn y deintyddfeydd y mae’n ei gynnal.”

Ychwanegodd y Comisiynydd mewn perthynas â’r ymyraethau,

“Mae Cymru yn wlad ddwyieithog, sy'n golygu y dylai cyflogwyr a staff barchu a chydnabod y ffaith y gall rhai unigolion o fewn y gweithle ddewis cyfathrebu yn y Gymraeg gydag eraill wrth eu gwaith.

“Yn naturiol, mae cyfathrebu rhwng pobl yn y Gymraeg yn rhan gynhenid o fywyd yng Nghymru. Ni ddylai pobl felly deimlo bod defnyddio’r Gymraeg yn achosi rhwystr afresymol na theimlo dan bwysau i droi at y Saesneg.

“Dylai Bupa fod yn effro i’r cysyniad o orfod cynnal ei fusnes yng Nghymru mewn modd sydd yn golygu parchu dewis staff i ddefnyddio’r Gymraeg gyda chyd-weithwyr. At y diben hwn, awgrymaf y dylai’r cwmni fabwysiadu polisi ar ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithleoedd a gynhelir yng Nghymru.

“Hoffwn ddiolch i’r unigolyn am dynnu fy sylw at y mater hwn ac anogaf unrhyw un arall sydd wedi profi sefyllfaoedd tebyg i gysylltu â ni. Diolch hefyd i Bupa am gydweithredu drwy gydol yr ymchwiliad.”

Gallwch weld copi o'r adroddiad yma