Logo Iaith Gwaith ar ddwylo

Mae angen gweithredu mwy uchelgeisiol i sicrhau y gall pobl fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.

Ar ben blwydd darlith radio Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, yn 60 oed, mae’r Comisiynydd yn cydnabod y cynnydd sydd wedi ei wneud o ran statws yr iaith dros y trigain mlynedd diwethaf. Mae’n rhybuddio, ar y llaw arall, bod rhwystrau yn parhau i atal pobl rhag medru byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Gwenith Price: ‘Saesneg oedd unig iaith swyddogol sefydliadau cyhoeddus yn y 1960au, hyd yn oed mewn ardaloedd gyda chanrannau uchel iawn o siaradwyr Cymraeg. Mae’r ffaith fod hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg gyda sefydliadau cyhoeddus yn bodoli ym mhob rhan o Gymru erbyn hyn yn rhywbeth y gellid ei ddisgrifio, yng ngeiriau Saunders Lewis, fel dim llai na ‘chwyldro’. Mae’n annhebygol y byddai hyn wedi digwydd heb ei ysgogiad, ac ymdrechion cenedlaethau o ymgyrchwyr.

‘Un mlynedd ar ddeg yn ôl i’r wythnos hon, daeth Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn ddeddf gwlad. Yn sgil y ddeddf mae hawl defnyddio’r Gymraeg gyda dros 120 o sefydliadau cyhoeddus. Yn wahanol i’r ddeddf iaith flaenorol, arweiniodd Mesur y Gymraeg at orfodi sefydliadau i ystyried y Gymraeg yn fwy gofalus, gan sicrhau bod yr iaith yn ganolog wrth gynllunio gofal iechyd, er enghraifft. Rhoddodd y Mesur hefyd hawl i unigolion gwyno’n uniongyrchol i Gomisiynydd y Gymraeg. Gellir cwyno am ddiffyg gwasanaeth Cymraeg neu am ystyriaeth annigonol o’r iaith gan sefydliadau. Mae gan y Comisiynydd ystod o bwerau i ddelio â chwynion o’r fath ac atal profiadau tebyg rhag digwydd eto.

‘Ond rhaid inni beidio â bod yn rhy gyfforddus,’ meddai. ‘Mae gormod o lawer o rwystrau yn atal siaradwyr rhag defnyddio’r iaith o hyd. Er ein bod yn croesawu’r ymrwymiad a wnaed yn y cytundeb cydweithio rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn ddiweddar, does dim digon wedi ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf i symud y gwaith yn ei flaen, ac mae angen gosod dyletswyddau ar sectorau cyfan. Rhwystr arall yw na all y Comisiynydd orfodi’r defnydd o’r Gymraeg gan sefydliadau sy’n cael eu rhedeg gan Lywodraeth y DU, er enghraifft materion yn ymwneud â phasbortau, trwyddedau gyrru a’r wladwriaeth les.

‘Nid oes gofyn o gwbl chwaith ar y mwyafrif o fusnesau i ddefnyddio’r iaith, ac mae hyn yn cyfyngu ar allu pobl i fyw yn Gymraeg. Tan y bydd profiad siaradwyr Cymraeg yn gyfartal â’r Saesneg, nid yw’r frwydr wedi ei hennill.’

Meddai Gwenith Price: ‘Soniodd Saunders Lewis am yr angen am chwyldro ym maes gwasanaethau cyhoeddus. Heddiw, mae angen chwyldro yn y byd addysg. Heb weddnewid y sefyllfa yn llwyr, bydd y weledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn methu. Does dim digon o athrawon all addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i greu cenhedlaeth newydd o siaradwyr. Mae angen gwneud llawer mwy i ddenu siaradwyr i’r proffesiwn, a datblygu sgiliau iaith Gymraeg yr athrawon hynny sy’n addysgu drwy gyfrwng y Saesneg.’

Fis Hydref diwethaf, cyhoeddodd y Comisiynydd adroddiad 5-mlynedd ar sefyllfa’r iaith. Ynddo, mae’n dadansoddi’n fanwl sefyllfa’r iaith heddiw. Mae angen gweithredu’n uchelgeisiol mewn meysydd fel addysg, datblygu economaidd, tai,  technoleg, a buddsoddi mewn rhwydweithiau cymunedol a chymdeithasol.

Gallwch ddarllen yr Adroddiad 5-mlynedd ar sefyllfa’r Gymraeg yma, neu wrando ar Gomisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, yn trafod y casgliadau mewn podlediad yma.