- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook

Yn dilyn gwrandawiad ar 20 Gorffennaf 2023, mae Tribiwnlys y Gymraeg wedi cyhoeddi ei benderfyniad, sydd wedi cadarnhau dyfarniad wnaed mewn ymchwiliad gorfodi gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Dyfarnodd y Comisiynydd fod Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi torri safonau’r Gymraeg drwy fethu ag ystyried yn gydwybodol effaith ei benderfyniad i ad-drefnu tair ysgol gynradd yn ei ardal ar y Gymraeg mewn dogfen ymgynghori ar y mater.
Mae’r dyfarniad heddiw yn un arwyddocaol a fydd yn arwain at well ystyriaeth i’r Gymraeg mewn penderfyniadau polisi a strategol. Bydd yn rhaid i sefydliadau ddweud sut maent wedi ystyried effaith y penderfyniadau maent am eu cymryd ar y Gymraeg o fewn eu dogfennau ymgynghori.
Wrth groesawu’r dyfarniad dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones,
“Rwy’n disgwyl gweld bod ystyriaeth gydwybodol wedi ei rhoi i unrhyw benderfyniadau perthnasol a bydd angen i sefydliadau nid yn unig ystyried effeithiau uniongyrchol eu penderfyniadau polisi a strategol ar y Gymraeg, ond hefyd effeithiau anuniongyrchol y penderfyniadau hynny.
“Mae hyn yn cadarnhau fy safbwynt fod yn rhaid i sefydliadau wneud mwy er mwyn cydymffurfio â safonau’r Gymraeg pan maent yn ymgynghori ar eu cynigion polisi. Mae’r Tribiwnlys wedi dyfarnu yn unol â’r hyn wnes i fel Comisiynydd ei ddyfarnu yn wreiddiol. Mae’r achos hwn yn gosod cynsail pwysig a bydd gofyn i sefydliadau ystyried y dyfarniad yn ofalus.”
Amlygodd penderfyniad y Tribiwnlys ddwy elfen bwysig:
- Rhaid i sefydliadau gynnwys digon o wybodaeth mewn dogfennau ymgynghori am effeithiau posib eu cynigion ar y Gymraeg, fel y gall y cyhoedd eu hystyried ac ymateb yn ddeallus iddynt. Mae hynny’n golygu fod angen gwneud mwy na datgan yn unig fod ystyriaeth wedi ei rhoi i’r effeithiau. Rhaid gwneud ymdrech gydwybodol i adnabod y ffactorau perthnasol a’u heffaith ar y Gymraeg.
- Rhaid ystyried effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol. Yn yr achos dan sylw oedd yn ymwneud ag ad-drefnu ysgolion, nododd y Tribiwnlys y dylid ystyried effeithiau’r penderfyniad ar y Gymraeg yn gymunedol, ac nad oedd wedi bod yn briodol cyfyngu’r asesiad wnaed i’r effaith ar yr ysgolion oedd yn cael eu had-drefnu yn unig.
Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones,
“Rwyf wedi derbyn nifer o gwynion am ddogfennau ymgynghori, yn enwedig rhai am ad-drefnu addysg ac nid hwn yw’r unig achos yn ymwneud ag asesu effaith ar y Gymraeg i gyrraedd y Tribiwnlys.
“Un o'n nodau cyson yw i gynyddu cyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac mae angen sicrhau fod cyrff cyhoeddus yn ystyried yr effaith ieithyddol yn llawn ar gymunedau pan yn datblygu a gweithredu cynlluniau.
“Mae cyfrifoldeb am les y Gymraeg yn perthyn i fwy nag un corff ac mae dyletswydd ar ein cyrff cyhoeddus i gynnig gwasanaethau cyflawn drwy’r Gymraeg ac i ystyried y Gymraeg ymhob maes polisi. Yn dilyn y penderfyniad hwn gan y Tribiwnlys byddaf yn manteisio ar y cyfle i’w hatgoffa eto o’u dyletswyddau a’u cyfrifoldebau.”
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot,
“Mae penderfyniad Tribiwnlys y Gymraeg yn cael ei barchu a’i ddeall.
“Sail y cyngor wrth gyfeirio’r mater hwn i’r tribiwnlys oedd dod â mwy o sicrwydd cyfreithiol ac eglurder i’r dehongliad o Safonau’r Gymraeg yn y mater hwn ac ar gyfer unrhyw ymgynghoriadau, ym mhob maes, y mae’r cyngor yn eu cynnal yn y dyfodol.
“Bydd y cyngor yn gweithio ar weithredu canfyddiadau’r tribiwnlys ac edrychwn ymlaen at weithio gyda swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i helpu i lunio canllawiau yn y dyfodol ar gyfer y cyngor hwn a chynghorau eraill yng Nghymru.”
Fe gynrychiolwyd Comisiynydd y Gymraeg gan y bargyfreithiwr Gwion Lewis CB (Siambrau Landmark) a Daniel Taylor, Emyr Lewis a Tomos Lewis o gyfreithwyr Blake Morgan ac fe fyddant yn awr yn gweithio gyda’r Comisiynydd i gynnal sesiynau perthnasol ar gyfer cyrff perthnasol er mwyn cynghori ar y materion hyn.
Gallwch ddarllen y dyfarniad llawn fan hyn