Llun o Aled Roberts

Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi rhyddhau teyrnged mewn ymateb i’r newyddion trist am farwolaeth Aled Roberts.

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Gwenith Price: ‘Roedd Aled yn gymeriad hoffus â dawn anghyffredin i ddod â phobl at ei gilydd.

‘Roedd yn ddyn ei filltir sgwâr â’i galon yn y Rhos. Ei angerdd dros dwf yr iaith Gymraeg yn y rhan honno o Gymru oedd y sbardun iddo fynd ati i symbylu newid er lles cenedl gyfan.

‘Pobl oedd wrth wraidd popeth a wna. Roedd yn gadarn ei weledigaeth dros gynyddu hawliau i siaradwyr Cymraeg, a thros sicrhau cyfiawnder pan fo annhegwch. Dymunai weld Cymru lle roedd cyfle gan bob dinesydd i siarad a defnyddio’r iaith. Doedd dim pall ar ei frwdfrydedd, a gweithiodd yn ddiflino drwy ei salwch. Braint oedd cydweithio ag o.

‘Mae’r newyddion am ei farwolaeth yn ein tristáu yn ddirfawr, a gwyddom y bydd pawb sydd wedi gweithio ag o’n teimlo yr un fath.

‘Rydym yn meddwl heddiw am ei deulu; am ei wraig, Llinos, a’u meibion, Ifan ac Osian, ei fam a’i chwaer, ac mae ein cydymdeimladau dwysaf â nhw yn eu colled.’