Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol yn derbyn tystiolaeth ar y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) a’r fframwaith deddfwriaethol sy’n cefnogi addysg cyfrwng Cymraeg

Mae’r CSCA yn rhan allweddol o’r strategaeth ar gyfer cyflawni amcanion a thargedau Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Ar sail y gwaith o ddarparu adborth ar ddrafftiau o CSCA pob awdurdod lleol, mae’r Comisiynydd o’r farn bod y fframwaith CSCA newydd yn llawer cryfach na’r hyn a oedd yn bodoli, a’i fod wedi arwain at gynlluniau mwy cadarn ac uchelgeisiol.

Er hyn, does dim amheuaeth bod angen cryfhau’r deddfwriaeth sy’n cefnogi’r CSCA a thwf addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Er mwyn cyflawni amcanion a thargedau heriol Cymraeg 2050, mae angen mynd i’r afael â’r bylchau a’r gwendidau sylweddol sy’n bodoli yn y gyfundrefn gynllunio bresennol. Mae tystiolaeth y Comisiynydd yn awgrymu’r prif feysydd y dylai’r Bil Addysg Gymraeg arfaethedig ganolbwyntio arnynt. Mae’r materion mwyaf allweddol yn cynnwys:

  1. Gosod nod statudol clir ac uchelgeisiol a rhoi sail statudol i dargedau ac amcanion polisi addysg strategaeth Cymraeg 2050
  2. Mewn perthynas â’r CSCA a’r categorïau ieithyddol, cyflwyno fframwaith statudol a chyllidebol pwerus ar gyfer hwyluso symud ysgolion ar hyd continwwm ieithyddol
  3. Drwy ddatblygu un continwwm iaith Gymraeg, gosod mecanwaith deddfwriaethol ar gyfer codi safonau mewn ysgolion cyfrwng Saesneg dros gyfnod o amser fydd yn rhoi’r cyfle i bob disgybl fod yn siaradwyr Cymraeg hyderus.
  4. Cryfhau sail statudol cynllunio gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg
  5. Sicrhau bod prosesau cyllido a chymeradwyo prosiectau cyfalaf addysg wedi’u halinio â gweledigaeth a thargedau Cymraeg 2050
  6. Cryfhau gofynion cyd-gynllunio strategol rhwng darpariaeth cyn-ysgol, y cyfnod statudol, a darpariaeth ôl-16
  7. Diwygio’r ddeddfwriaeth ynghylch trefniadau cludiant i’r ysgol

Gallwch ddarllen tystiolaeth lawn y Comisiynydd yma, neu gallwch wrando ar sesiwn lafar y Pwyllgor yma.