Athrawes yn ysgrifennu ar fwrdd du

Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn croesawu cynllun newydd Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y staff ysgol sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ôl yn haf 2020, cyhoeddodd y Comisiynydd adroddiad ar sgiliau iaith y gweithlu addysg. Amlygodd fod diffyg sylweddol yn niferoedd yr athrawon sy’n cael eu hyfforddi sydd â'r gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hyn yn arwain at fylchau mawr yn ngallu ysgolion i gyflwyno’r iaith i nifer cynyddol o blant a phobl ifanc dros y blynyddoedd nesaf. Rhybuddiodd y byddai’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn methu heb weithredu uchelgeisiol, a chyflwynodd nifer o argymhellion i’r Llywodraeth.

Dywedodd Dyfan Sion, Cyfarwyddwr Strategol yn swyddfa Comisiynydd y Gymraeg: ‘Rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi ystyried ein hargymhellion a chyhoeddi cynllun ar gyfer datblygu’r gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg.

‘Mae’r cynllun yn gam arwyddocaol i'r cyfeiriad cywir ac yn gam angenrheidiol ar gyfer gwireddu’r weledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

'Y peth pwysig nawr yw bod y Llywodraeth yn adeiladu ar hyn ac yn sicrhau bod amcanion a thargedau addysg strategaeth Cymraeg 2050 yn cael eu cyflawni.’

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad y Comisiynydd, Y Gymraeg a’r gweithlu addysg statudol yng Nghymru (Awst 2020).