Efa Gruffudd Jones

Yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ar 20 Hydref 2022, penodwyd Efa Gruffudd Jones yn Gomisiynydd y Gymraeg am gyfnod o 7 mlynedd.  

Ers 2016 mae Efa wedi bod yn Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a chyn hynny yn Brif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru.  

Ymddangosodd gerbron Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd fel ymgeisydd ar 13 Hydref, ac fe fydd yn dechrau yn ei swydd ar 9 Ionawr 2023. 

Meddai Gwyn Williams, Cadeirydd Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg, “Rwy’n croesawu’n fawr penodiad Efa fel Comisiynydd y Gymraeg ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at gydweithio gyda hi er budd y Gymraeg.”