Efa Gruffudd Jones gyda Mali Llyfni o'r NSPCC

Bydd Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn helpu i godi arian hanfodol ar gyfer NSPCC Cymru, ar ôl cyhoeddi mai’r sefydliad plant yw ei helusen am eleni.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud heddiw (dydd Mercher 9 Awst) yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan, Gwynedd, lle bu staff NSPCC Cymru ar stondin y Comisiynydd ar y Maes.

Mae gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg rôl reoleiddio o ran sicrhau bod sefydliadau’n cadw at safonau penodol, wrth hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd.  

 

Mae ei phenderfyniad i fabwysiadu NSPCC Cymru fel yr elusen a noddir ganddi eleni yn adlewyrchu perthynas waith agos rhwng y ddau sefydliad a ddechreuodd gyda Chynllun Cynnydd mewn Perthynas â’r Gymraeg yn 2018.

Y llynedd, cafodd NSPCC Cymru ei chydnabod yn swyddogol am ei hymrwymiad i’r iaith Gymraeg drwy dderbyn gwobr Cynnig Cymraeg y comisiynydd am ei chynnydd  o ran cynnig gwasanaethau i blant a phobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r elusen yn darparu cwnselwyr sy’n siarad Cymraeg ar gyfer plant sy’n defnyddio ei gwasanaeth Childline, yn ogystal â gwasanaeth dros e-bost Cymraeg ar gyfer y Llinell Gymorth i oedolion, ac mae adnoddau poblogaidd a chynlluniau gwersi sydd wedi’u cynllunio ar gyfer ysgolion hefyd ar gael yn Gymraeg.

Wrth gefnogi NSPCC Cymru, mae swyddfa’r comisiynydd yn gobeithio y bydd cymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau codi arian dros y 12 mis nesaf yn helpu i roi hwb i adnoddau’r NSPCC gan fod y sefydliad yn 90 y cant ddibynnol ar roddion i redeg y gwasanaethau.

Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai NSPCC Cymru yw elusen y flwyddyn Comisiynydd y Gymraeg eleni. Mae eu gwaith yn sicrhau bod plant a’n pobl ifanc yn teimlo’n ddiogel a bod rhywun yno i wrando arnynt a’u cefnogi. Mae’n wych bod y gwasanaethau hyn ar gael yn Gymraeg.

“Rwy’n croesawu ymrwymiad NSPCC Cymru i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd, ac yn falch eu bod yn rhan o’n cynllun Cynnig Cymraeg. Mae cynllun y Cynnig Cymraeg yn arwain at gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ymhlith elusennau a busnesau. 

“Byddwn yn cydweithio gyda’r NSPCC i hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg, ac yn eu cefnogi wrth iddyn nhw barhau gyda’r gwaith pwysig o addysgu’r cyhoedd, ac o gefnogi a diogelu plant yng Nghymru.” 

Roedd staff yr NSPCC yn bresennol yn stondin Comisiynydd y Gymraeg ar faes yr Eisteddfod heddiw (dydd Mercher 9 Awst) i dynnu sylw at eu gwaith hollbwysig ac i ddarparu amryw o weithgareddau i blant a theuluoedd yn yr Eisteddfod.

Dywedodd Tracey Holdsworth, Cyfarwyddwr Cynorthwyol NSPCC Cymru; “Rydym yn falch iawn o fod yr elusen a noddir gan Gomisiynydd y Gymraeg eleni. Rydym yn cydnabod mai’r Gymraeg yw dewis iaith rhai o ddefnyddwyr gwasanaeth, cefnogwyr, gwirfoddolwyr a staff yr NSPCC ac rydym yn falch o’n llwyddiant wrth sicrhau rhagor o wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, ac o’n gwaith parhaus gyda swyddfa’r comisiynydd.

“Mae codi arian a rhoddion yn ganolog i’r ffordd rydyn ni’n darparu gwasanaethau pwysig i blant a phobl ifanc ar draws Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at bartneriaeth hyd yn oed yn fwy llwyddiannus dros y misoedd nesaf.”

Mae NSPCC Cymru yn annog unrhyw un sydd â phryderon am les neu ddiogelwch plentyn, hyd yn oed os nad ydynt yn siŵr, i gysylltu â llinell gymorth yr NSPCC i siarad ag un o weithwyr proffesiynol yr elusen. Gallwch ffonio 0808 800 5000, anfon e-bost at help@nspcc.org.uk neu lenwi’r ffurflen ar-lein.