- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook

Heddiw mae RSPB Cymru yn cyhoeddi eu Cynnig Cymraeg, sef cydnabyddiaeth Comisiynydd y Gymraeg i ddangos bod yr elusen wedi cyrraedd safon arbennig wrth gynnig gwasanaeth Cymraeg i’r cyhoedd.
Mae Nia Stephens, sy’n wreiddiol o Aberteifi, yn gweithio i'r elusen fel warden ar Ynys Dewi, ger Tŷ Ddewi, Sir Benfro ac yn falch o fedru defnyddio’r Gymraeg yn ei gwaith bob dydd. RSPB Cymru sy’n berchen ac yn gwarchod yr Ynys, ac mae dau warden yn bugeilio’r ynys am naw mis y flwyddyn.
“Mae’r Gymraeg yn bwysig iawn i RSPB Cymru, ac i fi.” meddai Nia, “Mae’n bwysig bod yr RSPB yn cynrychioli Cymru. Mae lot o staff sy’n siarad Cymraeg yn gweithio i’r elusen. Fi’n hala lot o e-byst yn Gymraeg. Dwi’n cyfieithu negeseuon cyfryngau cymdeithasol yr ynys i’r Gymraeg; ni’n gwneud popeth yn Gymraeg a Saesneg, a dw i’n meddwl bod hynny’n bwysig iawn.”
Fe aeth Nia i ymweld ag Ynys Dewi gyntaf pan oedd yn ugain oed, a syrthio mewn cariad â’r lle.
“Mae gweithio yma yn freuddwyd, mae’n gymaint o fraint i mi alw’r Ynys yn gartref i mi” meddai Nia, sy’n tywys ymwelwyr ar deithiau o amgylch Ynys Dewi, sy’n digwydd yn rheolaidd yn ystod tymor y gwanwyn a’r haf.
“Pan mae’r cwch yn dod, dw i’n siarad gyda’r ymwelwyr, a dw i bob amser yn dechrau’r sgwrs gyda ‘Chroeso i Ynys Dewi. Fy enw i yw Nia.’ Mae’r bobl sy’n siarad Cymraeg yn gwybod mod i’n gallu siarad yr iaith, ac maen nhw’n siarad Cymraeg gyda fi drwy’r dydd wedyn,” meddai hi.
“Dwi’n meddwl bod pobl yn hoffi gallu siarad yn Gymraeg gyda fi am y bywyd gwyllt. Mae e’n gwneud gwahaniaeth i’w dydd nhw.”
“Fi’n cael sioc drwy’r adeg, wrth gwrdd â phobl o Dŷ Ddewi sydd erioed wedi bod i Ynys Dewi,” meddai Nia, sy’n dweud fod rhan fwyaf o’i hymwelwyr o Gymru wedi dod o Gaerdydd ac Ynys Môn eleni. “Mae’r Gymraeg yn rhoi gwell profiad i ymwelwyr fi’n credu. Mae hi’n anodd esbonio pam, bydden ni'r un peth, chi’n teimlo’n fwy cyfforddus. Mae e’n gwneud i ti deimlo, fel bod ti’n rhan o rywbeth. Mae e’n gwneud gwahaniaeth.”
Meddai Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg:
“Hoffwn longyfarch RSPB Cymru ar eu Cynnig Cymraeg. Rhaid llongyfarch Nia hefyd, am wella profiad ymwelwyr, ac am genhadu’r iaith i ymwelwyr tu hwnt i Gymru. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’r elusen ymhellach yn y dyfodol, ac yn dymuno’n dda iddynt, wrthynt ddatblygu eu Cynnig Cymraeg.”
Dywedodd Alun Prichard, Cyfarwyddwr RSPB Cymru:
“Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg dros y misoedd diwethaf, ac rydym yn hynod o falch o dderbyn cymeradwyaeth y Comisiynydd i’n Cynnig Cymraeg. Fel elusen sy’n gweithredu yng Nghymru, rydym yn teimlo’n angerddol am wasanaethu pobl Cymru yn gwbl ddwyieithog.
“Fel rhan o’r cynllun Cynnig Cymraeg, byddwn yn gweithio i sicrhau ein bod yn cyfathrebu a’n cefnogwyr a’r cyhoedd yn ddwyieithog pob tro, boed hynny trwy gynnwys blogiau a chyfryngau cymdeithasol i arwyddion mewn gwarchodfeydd byd natur. Bydd y cynllun yn cryfhau ymhellach ein hymrwymiad i weithredu a gwasanaethu pobl Cymru yn y ddwy iaith.”
Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn dathlu diwrnod Cynnig Cymraeg dydd Iau, 27 Ionawr. Os ydych chi’n credu bod eich elusen neu eich busnes chi’n cynnig gwasanaeth Cymraeg gwych i’r cyhoedd, hoffem glywed gennych chi:
hybu@cyg-wlc.cymru.