Meddyg yn gweithio ar gyfrifiadur wrth ddesg

Mae Senedd Cymru wedi cymeradwyo set o reoliadau Safonau’r Gymraeg er mwyn sicrhau bod mwy o sefydliadau yn y sector iechyd yn dod o dan ddyletswydd i ddefnyddio’r Gymraeg.  Mae safonau’r Gymraeg yn egluro sut mae’n rhaid i sefydliadau ddefnyddio ac ystyried y Gymraeg a rhoi gwell triniaeth i’r Gymraeg ochr yn ochr â’r Saesneg. 

Crëwyd y drefn hon gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac ers hynny mae 124 o gyrff cyhoeddus wedi dod o dan y drefn. Mae hawliau felly gan siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith wrth ymwneud â’r sefydliadau hyn. Mae gan Gomisiynydd y Gymraeg bŵer i orfodi ac i sicrhau bod y sefydliadau yn cydymffurfio â’r safonau sydd wedi eu gosod arnynt. 
 
Yn ôl Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Gwenith Price, ‘Cafodd rheoliadau safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022 eu cymeradwyo heddiw yn y Senedd. Bydd y rheoliadau hyn yn fy ngalluogi i ddod â chyrff sy’n rheoleiddio gweithwyr proffesiynol y sector iechyd a’r Awdurdod Safonau Proffesiynol o dan y gyfundrefn safonau. Yn sgil y datblygiad hwn bydd y Comisiynydd yn dechrau ar y gwaith o osod safonau ar y sefydliadau dan sylw.  

Ychwanegodd, ‘Bydd gosod safonau ar y sefydliadau hyn yn ehangu’r hawl sydd gan ddefnyddwyr i ddod at y Comisiynydd gyda chŵyn os ydynt yn cael trafferth defnyddio’r Gymraeg’.