Gwirfoddolwyr Samariaid yn sefyll wrth gychod

Gyda'r Nadolig yn prysur agosáu, gall fod yn gyfnod o bryder ac o unigrwydd i lawer a’r ofn o gael neb i sgwrsio â nhw. Mae Samariaid Cymru yn cynnig achubiaeth i unrhyw un yn y sefyllfa hon ac mae'r gwasanaeth yng Nghymru yn cael ei gynnig yn newis iaith y galwr, boed hynny yn Gymraeg neu Saesneg.    

Y Samariaid yw un o'r sefydliadau diweddaraf i dderbyn y Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg. Dyma gydnabyddiaeth swyddogol y Comisiynydd ac fe'i rhoddir i sefydliadau sydd wedi cydweithio â swyddogion y Comisiynydd i gynllunio eu darpariaeth Gymraeg. 

 Yn ôl Neil Ingham, Cyfarwyddwr Gweithredol Samariaid Cymru, mae darparu'r gwasanaethau'n ddwyieithog yn hanfodol i ddiwallu anghenion y rhai sy’n eu galw,   

"Yng Nghymru, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw derbyn cymorth yn eich iaith gyntaf ac rydym yn gweithio i gyrraedd cymaint o siaradwyr Cymraeg ag y gallwn. Rydym yn falch o dderbyn cydnabyddiaeth y Cynnig Cymraeg, ond rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i wella ein Cynnig Cymraeg i unrhyw un sydd angen cefnogaeth y Samariaid. 

"Os hoffech chi gael cefnogaeth emosiynol yn Gymraeg, mae ein llinell Gymraeg yn rhad ac am ddim i'w ffonio, hyd yn oed o ffôn heb gredyd ac ni fydd y rhif yn ymddangos ar eich bil ffôn. Ein prif neges i bawb ledled Cymru, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn, yw nad yw estyn allan am gymorth yn arwydd o wendid, ond yn hytrach yn arwydd o gryfder." 

Dros y flwyddyn ddiwethaf fe atebodd Samariaid Cymru 130,000 o alwadau am gymorth, sy'n gyfystyr ag un alwad bob pedwar munud. Mae llawer o resymau dros alw ond mae'r prif rai oherwydd problemau iechyd meddwl, anghydfod teuluol, unigedd ac unigrwydd, problemau perthynas a salwch corfforol. 

Roedd Damien wedi bod yn cael trafferth gydag iselder a gorbryder am ddeng mlynedd, a flwyddyn yn ôl, penderfynodd na allai fynd ymlaen, ac yna fe ffoniodd y Samariaid,  

"Nid nad oeddwn i'n gallu siarad gyda fy nghariad na fy nhad, roedd y ddau yn gefnogol iawn, ond pan rydych chi yn ei chanol hi, mae'n anodd iawn meddwl yn rhesymegol a meddwl am y bobl hynny.  

"Y bore hwnnw, fe ymddangosodd rhif y Samariaid, a dyma fi’n meddwl, 'beth sydd gen i i'w golli?' Alla i ddim cofio cynnwys y sgwrs, y cyfan rwy'n ei wybod yw, ar ôl i mi ddod oddi ar y ffôn, nad oeddwn i'n teimlo yr un ffordd. Erbyn hyn, dwi dal i gael diwrnodau gwael o dro i dro, ond dwi mewn lle llawer gwell nag oeddwn i gan wybod nad yw'r teimladau hyn yn barhaol. Rwy'n edrych ymlaen at weddill fy mywyd ac rwy mor falch mod i wedi codi’r ffôn.” 

Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, mae'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan sefydliadau fel Samariaid Cymru yn hanfodol bwysig yn enwedig dros gyfnod y Nadolig,  

"Mae'n hawdd anghofio, wrth i lawer ohonom fwynhau hwyl y Nadolig, y bydd eraill yn wynebu sefyllfaoedd anodd oherwydd amgylchiadau amrywiol. Ni ellir gorbwysleisio  gwerth llais cyfeillgar ar ochr arall y ffôn, un sy'n barod i wrando a siarad â chi. 

"Mae'n gam mawr i wneud yr alwad honno ac mae'n bwysig bryd hynny bod y galwr yn gallu siarad yn eu dewis iaith, gan sicrhau ei fod mor gyfforddus â phosib. Hoffwn longyfarch Samariaid Cymru, nid yn unig ar dderbyn y Cynnig Cymraeg ond am y gwaith rhagorol y mae'r elusen yn ei wneud drwy gydol y flwyddyn."   

Lynda yw Cyfarwyddwr Cangen Bangor o’r Samariaid ac mae'n wirfoddolwr gwrando gyda Samariaid Cymru,  

"Mae defnyddio fy iaith gyntaf yn hanfodol i mi yn fy mywyd bob dydd fel y mae i lawer ledled Cymru, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn cymunedau gwledig a ffermio. Fel gwirfoddolwr gwrando ar gyfer y llinell gymorth Gymraeg, gallaf gynorthwyo'r rhai mewn angen tra hefyd yn cyfathrebu â nhw yn eu dewis iaith. Mae siarad yn Gymraeg yn eu helpu i deimlo'n fwy cyfforddus wrth i ni siarad am yr hyn sy'n eu poeni." 

Mae’r llinell Gymraeg yn rhad ac am ddim i’w galw bob dydd rhwng 7pm – 11pm ar 0808 164 0123.  

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y Cynnig Cymraeg yma.