Mae Gwasanaeth Cyfieithu Bla yn gwmni preifat sy’n cynnig gwasanaethau cyfieithu, prawfddarllen a golygu i gleientiaid lu o bob sector, yng Nghymru a thu hwnt. Gall sefydliadau droi atynt am gymorth gyda’u gofynion Cymraeg. Maent yn estyn cefnogaeth iddynt i sicrhau eu bod nhw’n gwneud yn fawr o’u hunaniaeth Gymreig ac, yn bwysicach fyth, eu bod yn rhoi triniaeth deg a chyfartal i’r Gymraeg. Yma maent yn trafod derbyn y Cynnig Cymraeg:

 

Pam fod defnyddio’r Gymraeg yn bwysig i chi?

Y Gymraeg yw hanfod ein busnes. A’n nod fel cwmni yw sicrhau darpariaeth brydlon a manwl gywir o gyfieithiadau i fusnesau, sefydliadau yn ogystal â’r cyhoedd fel bod y Cymry yn gallu ceisio gwybodaeth ddealladwy yn eu mamiaith, heb orfod troi at y Saesneg i ddeall y testun. Mae gan Gymry yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd, ac mae cyfrannu at y gwaith o sicrhau hynny yn rhoi boddhad mawr i ni yn Bla ac yn ddyletswydd yr ydym yn ei chymryd o ddifrif fel Cymry.  

Disgrifiwch y broses o baratoi Cynllun Datblygu’r Gymraeg o’r penderfyniad i baratoi cynllun i dderbyn cydnabyddiaeth gan y Comisiynydd.

Ar yr olwg gyntaf, efallai yr ymddengys yn rhyfedd i gwmni cyfieithu ymgymryd â’r broses Cynnig Cymraeg – onid yw’n amlwg bod y Gymraeg yn allweddol i ni gyfieithwyr? Ond, y gwir amdani yw bod gan bob un ohonom gyfraniad i’w wneud o ran rhoi llwyfan mwy amlwg i’r Gymraeg, ac mae’n gyfrifoldeb arnom i wneud hynny. Roedd y broses o baratoi Cynllun Datblygu’r Gymraeg yn un rhwydd. Y cwbl y mae gofyn i chi ei wneud yw amlinellu’ch cryfderau presennol o ran eich defnydd o’r Gymraeg, a daw’n amlwg wedyn y meysydd y mae angen i chi eu gwella.

Pam ei fod yn bwysig eich bod wedi derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg?

Yn amlwg, mae ein cyfieithwyr i gyd yn ddwyieithog, ond yn ychwanegol at hynny mae ein staff ategol, megis yr adain weinyddol a chyllid, hefyd yn gwbl ddwyieithog. Mae hyn yn golygu y gallwn gynnig gwasanaeth cwbl ddwyieithog ym mhob agwedd ar ein cwmni – ac yn sicr mae hynny’n destun dathlu! Rydym wrth ein bodd yn cydweithio â’n cleientiaid Cymraeg eu hiaith, ond mae cefnogi swyddogion Saesneg sy’n trio eu gorau glas i ddefnyddio’r Gymraeg yn rhoi gwên lydan ar ein hwynebau hefyd. Rydym eisoes yn ymdrechu i hyrwyddo’r iaith gyda’n cleientiaid, felly pam ddim mynd amdani i geisio cydnabyddiaeth ffurfiol gan Gomisiynydd y Gymraeg am wneud hynny? Mae rhai o’n cleientiaid wedi bod drwy’r broses hon, ac wedi llwyddo, felly braf iawn yw gallu rhannu profiadau gyda nhw a’u cynorthwyo ar hyd y daith.

Beth yw’r budd i chi o dderbyn y Cynnig Cymraeg?

Drwy dderbyn y Cynnig Cymraeg, gallwn ni fel cwmni ddangos ein hymrwymiad diysgog i’n hiaith. Yn wir, mae ein hymrwymiad yn mynd y tu hwnt i’n gwaith o ddarparu gwasanaethau cyfieithu o’r radd flaenaf. Yn naturiol, rydym yn frwd dros yr iaith a ninnau’n ieithyddion, ond rydym hefyd yn frwd drosti o bersbectif personol. Rydym yn hoff o ddangos gwerth y Gymraeg mewn busnes i’n cleientiaid, a’u hannog i fanteisio ar yr iaith, yn hytrach na’i hystyried yn rhwystr. Mae ein hiaith mor unigryw i ni yma yng Nghymru, mae’n hollbwysig ein bod ni’n gynhwysol ohoni ac yn ei hyrwyddo gymaint â phosibl er mwyn denu diddordeb ynddi, darbwyllo pobl bod y Gymraeg yn gaffaeliad i’ch busnes a sicrhau ei pharhad yn y tymor hir.

Beth yw manteision cynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i ddefnyddwyr eich gwasanaeth?

Drwy gynnig gwasanaeth cyfrwng Cymraeg i’n cleientiaid, rydym yn galluogi Cymry Cymraeg i ymwneud â ni yn eu mamiaith. Mae rhai o’n cleientiaid yn dysgu Cymraeg, ac felly rydym yn eu hannog i ymarfer eu sgiliau, a hynny ar lafar wrth sgwrsio gyda ni dros y ffôn neu yn ystod cyfarfodydd, ac yn ysgrifenedig wrth gysylltu â ni drwy e-bost. Mae’n golygu y gallwn ffurfio perthynas fwy clòs ac unigryw â’n cleientiaid sy’n deimlad braf i’r ddwy ochr.

Ydy’r Cynnig Cymraeg wedi gwneud gwahaniaeth i’ch gwaith?

Mae’r ardystiad Cynnig Cymraeg yn rhywbeth yr ydym yn ymfalchïo ynddo yn Bla. Er bod ein cwmni wedi’i leoli ar Ynys Môn, sy’n ardal naturiol Gymreig, rydym yn ymwneud â phobl o bob cefndir, o Gymru a thu hwnt iddi. Felly, drwy ddangos ein hardystiad Cynnig Cymraeg i’r cleientiaid hynny, mae’n cyfnerthu ein dibynadwyedd a’n hintegriti fel cwmni cyfieithu, ac yn amlygu ein bod wedi cymryd camau ychwanegol i gadarnhau ein hunaniaeth fel cwmni cynhenid Cymreig.

Fyddech chi'n annog eraill i geisio am y Cynnig Cymraeg, a pham?

Byddwn i’n annog pob sefydliad yng Nghymru i fynd amdani i ennill y Cynnig Cymraeg! Mae’r broses yn syml, ac mae’r Tîm Hybu yn hynod effeithlon ac yn barod i’ch cynorthwyo ar hyd y daith. Os ydych yn sefydliad Cymreig eich natur, yna mae’n dangos eich ymrwymiad a’ch gallu i gynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg, ac os ydych yn sefydliad Seisnig eich natur, yna mae’n dangos eich ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymru, pwysigrwydd yr iaith a’ch parch tuag ati. Does dim rheswm i beidio mynd amdani!

Oes gyda chi unrhyw gyngor i sefydliadau eraill sy’n ystyried gweithio tuag at y Cynnig Cymraeg?

Fy nghyngor i ar gyfer unrhyw sefydliad arall sy’n ystyried dechrau’r broses o ennill y Cynnig Cymraeg yw ewch amdani os ydych wir yn frwd dros y Gymraeg. Mae’n gyfle rhy dda i’w golli. Does dim cost ariannol ynghlwm ag ef, ac nid yw’n broses lafurus tu hwnt. A phan fyddwch wedi llwyddo i’w gyflawni, cofiwch hyrwyddo eich cyflawniad gymaint â phosibl a rhowch wybod i sefydliadau eraill bod achrediad o’r fath ar gael iddynt hwythau hefyd!