Graffeg ffurflenni

Yn gynharach yn y flwyddyn fe wnaethom gyhoeddi y byddem yn mabwysiadu dull mwy rhagweithiol o ‘gyd-reoleiddio’. Wrth wneud y cyhoeddiad hwnnw, fe wnaethom hefyd nodi ein bwriad i ddatblygu a gosod deilliannau rheoleiddio clir yn ystod 2024.  

Ein gobaith gyda’r deilliannau hyn yw y byddant yn cynrychioli nodau ac amcanion cyffredin sefydliadau cyhoeddus, ac yn cwrdd ag anghenion defnyddwyr y Gymraeg yn ogystal â ninnau fel Comisiynydd y Gymraeg, ac yn bwysicaf oll ein bod i gyd yn eu perchnogi.  

Dywedodd Osian Llywelyn, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, 

“Rydym wedi ymrwymo i reoleiddio gyda phwrpas penodol a strategol, a’n bod yn glir am yr hyn rydym yn ceisio ei gyflawni wrth wneud penderfyniadau rheoleiddio.   

“Er mwyn gwneud hynny, rydym am gyflwyno deilliannau rheoleiddio fydd yn llywio ein dull a’n hymagwedd reoleiddio, a byddwn yn cyfeirio ein hadnoddau at achosion lle mae’r risgiau mwyaf i gyflawniad y deilliannau yma. 

“Rydyn ni'n awyddus i glywed barn a safbwyntiau ar y deilliannau rheoleiddio yma, a gellir gwneud hynny drwy gwblhau arolwg byr a fydd yn ein cynorthwyo gyda’n gwaith i’r dyfodol.”  

Gallwch ddarllen mwy am y gwaith hyn a gweld yr arolwg yma.