Logo Cynnig Cymraeg

Mae heddiw (15 Mai) yn cychwyn ar gyfnod o ddathlu i’r busnesau ac elusennau hynny sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg. Ymysg y rhai diweddaraf sydd wedi ymrwymo i’r Cynnig Cymraeg y mae Banc Bwyd Arfon, Ramblers Cymru, Xplore! ac archfarchnad Lidl.  

Cydnabyddiaeth swyddogol y Comisiynydd yw’r Cynnig Cymraeg a chaiff ei rhoi i sefydliadau sydd wedi cydweithio â swyddogion y Comisiynydd i gynllunio darpariaeth Gymraeg. 

Drwy gydol yr wythnos hon, caiff sylw ei roi i’r cyrff hynny sydd wedi sicrhau cymeradwyaeth tra ar yr un pryd yn annog eraill i fynd amdani. 

Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, mae hwn yn gyfle gwych i sefydliadau ddangos eu hymrwymiad i’r Gymraeg, 

“Mae’r Cynnig Cymraeg yn rhoi cyfle i fudiadau godi ymwybyddiaeth am eu gwasanaethau Cymraeg. Y nod yw gweld cynnydd mewn ymwybyddiaeth a fydd yn ei dro yn arwain at gynnydd yn y defnydd o wasanaethau Cymraeg. Rydym yn cynnig cefnogaeth i’r rheiny sydd yn dymuno bod yn rhan o’r cynllun a hyd yn  hyn mae’r ymateb wedi bod yn wych. 

“Ers cychwyn yn fy swydd rwyf wedi pwysleisio’n gyson fod angen i’r gwaith hollbwysig o fonitro cydymffurfiaeth weithio law yn llaw â’r gwaith o hybu a hyrwyddo’r Gymraeg. Os am gynyddu defnydd o’r iaith Gymraeg yn naturiol yn ein bywydau o ddydd i ddydd mae angen i’r Gymraeg fod yn weladwy ymhobman, ac mae angen i ni ei defnyddio. 

“Rwy’n ddiolchgar i bob un o’r cyrff sydd wedi ymrwymo i’n Cynnig Cymraeg ac yn annog eraill i fanteisio ar y cyfle.”  

Un sefydliad sydd wedi derbyn y Cynnig Cymraeg yn ddiweddar yw Ramblers Cymru, elusen genedlaethol sydd yn gweithio i hyrwyddo cerdded ar gyfer pobl o bob oed, cefndir a gallu, mewn trefi a dinasoedd ac yng nghefn gwlad.  

Maent yn hynod o falch o dderbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg yn ôl Bran Devey o’r elusen, 

“Rydym yn rhan o gorff sydd yn gweithredu ar draws y DU, ond mae Ramblers Cymru hefyd yn gorff Cymraeg gyda hanes Cymraeg ac fel sefydliad rydym yn gwerthfawrogi yr iaith a diwylliant Cymru. Mae y Ramblers hefyd yn gorff cynhwysol, ac mae defnyddio’r Gymraeg yn rhan bwysig o barchu a gwireddu ein gwerthoedd. 

“Mae’r Cynnig Cymraeg yn rhoi hygrededd i’n hymrwymiad i’r iaith Gymraeg tra’n ein helpu ni hefyd i ddatblygu’r ddarpariaeth Gymraeg yr ydym yn ei chynnig.” 

Un o’r sefydliadau hynny sydd yn gweithio tuag at gael cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg yw Xplore! yn Wrecsam sef prif Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth Gogledd Cymru. Mae’r ganolfan yn denu dros 80,000 o ymwelwyr bob blwyddyn ac yn cynnig dangosiadau gwyddoniaeth rhyngweithiol yn ogystal â sioeau gwyddoniaeth byw i'r cyhoedd. 

Yn ôl rheolwr y Ganolfan, Scot Owen, maent yn gwerthfawrogi’r cydweithio gyda swyddfa’r Comisiynydd wrth iddynt anelu at gael y gymeradwyaeth, 

“Ers agor y ganolfan mae’r diddordeb yn ein gwaith wedi bod yn wych ac rydym yn cynnig gweithgareddau i bobl a grwpiau ar draws gogledd Cymru a Lloegr. Mae’n naturiol i ni gyflenwi ein gwasanaethau yn ddwyieithog yn enwedig wrth weithio gydag ysgolion ac mae’r Cynnig Cymraeg yn atgyfnerthu’r gwaith hwnnw. Rydym wedi cael cefnogaeth wych gan staff y Comisiynydd wrth ddatblygu ein cynllun iaith ac rydym yn edrych ymlaen i ehangu ein gwasanaethau Cymraeg yn y dyfodol.” 

Ers lansio’r cynllun ym mis Mehefin 2020, mae cydnabyddiaeth wedi ei rhoi i Gynnig Cymraeg 75 o fusnesau ac elusennau, ac mae swyddfa’r Comisiynydd yn gweithio gyda thros gant o sefydliadau eraill ar ddatblygu cynlluniau.  

Mae mwy o wybodaeth am y Cynnig Cymraeg ar gael yma.