Criw o Tir Dewi ar ôl derbyn eu Cynnig Cymraeg

Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal digwyddiad ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd ar 18 Gorffennaf 2022 i drafod Cynllun y Cynnig Cymraeg, sef cymeradwyaeth swyddogol y Comisiynydd i fusnesau ac elusennau sy’n ymroi i ddefnyddio’r Gymraeg fwyfwy yn eu gwaith.

Yn rhan o’r digwyddiad fydd panel trafod wedi ei gadeirio gan Alun Jones,  Prif Weithredwr Menter a Busnes. Bydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar bwysigrwydd y Gymraeg i fusnesau a’r budd y maent yn ei gael o ddefnyddio’r iaith yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Yn rhan o’r panel trafod fydd cynrychiolwyr o elusen Tir Dewi ac Agri Advisor.

Meddai Nerys Llewelyn Jones, Pennaeth Agri Advisor, ‘Rydyn ni’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r drafodaeth er mwyn annog eraill i weld budd y Cynnig Cymraeg. Rydyn ni wedi derbyn y Cynnig Cymraeg i ddangos i’n cleientiaid fod yr iaith ar gael iddyn nhw. Roedd cydweithio â thîm y Comisiynydd yn broses bositif iawn. Gallwn ni gefnogi a rhoi cyngor i bobl yn eu dewis iaith ac mae ein cwsmeriaid yn gwerthfawrogi hynny.’

Cydnabyddiaeth swyddogol y Comisiynydd yw’r Cynnig Cymraeg a chaiff ei rhoi i sefydliadau sydd wedi cydweithio â swyddogion y Comisiynydd i gynllunio darpariaeth Gymraeg uchelgeisiol.

Datblygwyd cynllun y Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn cael gwybod pa wasanaethau Cymraeg sydd ar gael ar eu cyfer. Ers lansio’r cynllun ym mis Mehefin 2020, mae cydnabyddiaeth wedi ei rhoi i Gynnig Cymraeg 55 o fusnesau ac elusennau, ac mae swyddfa’r Comisiynydd yn gweithio gyda thros gant o sefydliadau eraill ar ddatblygu cynlluniau.

Meddai Alun Jones, ‘Mae’r Cynnig Cymraeg yn ddefnyddiol i fusnesau sydd eisiau ehangu eu defnydd o’r Gymraeg, ac yn ystod y digwyddiad ar faes y Sioe Fawr byddwn yn croesawu busnesau ac elusennau o bob math gan rannu syniadau a chael cyfle i drafod.’

Ychwanegodd, ‘Mae cael defnyddio eu hiaith gyntaf wrth ymwneud â busnesau ac elusennau yn bwysig i nifer o siaradwyr Cymraeg. Gall yr iaith hefyd fod yn arf i sicrhau bod busnes yn ffynnu, ac yn cyrraedd cynulleidfaoedd yma yng Nghymru.’

Yn ôl Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, ‘Mae cynnal y digwyddiad yma ar faes y Sioe Fawr yn gyfle i sefydliadau godi ymwybyddiaeth o’u gwasanaethau Cymraeg, i ryngweithio ac i rannu arferion effeithiol. Y nod yw gweld mwyfwy o fusnesau yn derbyn y Cynnig Cymraeg a fydd yn arwain at gynnydd mewn defnydd o wasanaethau Cymraeg. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi denu diddordeb nifer o fusnesau ac elusennau sy’n gweld gwerth yr iaith yn eu gwaith o ddydd i ddydd, ac mae’n wych medru cydweithio gyda nhw i ddatblygu’r Cynnig Cymraeg.’

Os hoffech fwy o wybodaeth am y digwyddiad neu er mwyn cofrestru i fynychu cysylltwch â hybu@cyg-wlc.cymru Am ragor o wybodaeth am y Cynnig Cymraeg, cliciwch yma.