- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook
Mae’r ymosodiad milwrol ar Wcráin yn ystod yr wythnosau diwethaf yn peri pryder mawr ac rydym yn dyst i argyfwng dyngarol yn Ewrop sy'n gwaethygu o ddydd i ddydd.
Fel Comisiynwyr ac Ombwdsmon, rydym yn croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog i wneud Cymru’n genedl noddfa i bobl ar draws y byd. Mae gan Gymru hanes balch o fod yn wlad agored a chroesawgar, a byddwn yn cefnogi’r ymdrechion ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus i sicrhau ein bod yn cyflawni ein dyletswyddau hawliau dynol fel cenedl, ac y gall pobl sy'n dod o hyd i loches yma wneud cyfraniad cadarnhaol i Gymru yn awr ac yn y dyfodol.
Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru;
Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru;
Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru;
Gwenith Price, Comisiynydd y Gymraeg dros dro;
Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.