Staff a Gwirfoddolwyr BAVO

Mae Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Penybont ar Ogwr (BAVO) yn dathlu wedi cael cymeradwyaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg i’w Cynnig Cymraeg.

Cydnabyddiaeth swyddogol y Comisiynydd yw’r Cynnig Cymraeg a chaiff ei rhoi i sefydliadau sydd wedi cydweithio â swyddogion y Comisiynydd i gynllunio darpariaeth Gymraeg uchelgeisiol.

Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Penybont yw’r drydedd o’i math i dderbyn y gymeradwyaeth ac mae’n golygu y byddant yn cynnig mwy o wasanaethau yn ddwyieithog yn y dyfodol yn ôl y Prif Weithredwr, Heidi Bennett,

“Rydym wrth ein bodd yn derbyn y gymeradwyaeth hon gan Gomisiynydd y Gymraeg. I nifer, mae’r ardal hon yn gymharol Seisnig ei hiaith ond mae diwylliant Cymraeg cryf yma yn enwedig yng nghymunedau ein cymoedd. Rydym yn ymwybodol hefyd ein bod am gynnig cyfloedd cyfartal i’r rhai sydd am ddefnyddio ein gwasanaethau ac mae hynny yn golygu sicrhau y gallant ddefnyddio eu dewis iaith.

“Mae ein staff wedi gweithio’n ddiwyd gyda chefnogaeth swyddogion y Comisiynydd ac rwy’n hynod o falch o’n llwyddiant.”

Mae gan y Gymdeithas 24 aelod o staff ac mae dros 400 o fudiadau yn aelodau, ac yn derbyn cyngor a chymorth yn ddyddiol. Y nod tymor hir yw y bydd pob elfen o’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu’n ddwyieithog.

Ers lansio’r cynllun ym mis Mehefin 2020, mae cydnabyddiaeth wedi ei rhoi i Gynnig Cymraeg 63 o fusnesau ac elusennau, ac mae swyddfa’r Comisiynydd yn gweithio gyda thros gant o sefydliadau eraill ar ddatblygu cynlluniau. 

Dywedodd Awel Trefor, Uwch Swyddog Hybu Comisiynydd y Gymraeg,

“Mae’r Cynnig Cymraeg yn rhoi cyfle i fudiadau godi ymwybyddiaeth am eu gwasanaethau Cymraeg. Y nod yw gweld cynnydd mewn ymwybyddiaeth a fydd yn ei dro yn arwain at gynnydd yn y defnydd o wasanaethau Cymraeg. Rydym yn cynnig cefnogaeth i’r rheiny sydd yn dymuno bod yn rhan o’r cynllun a mor belled mae’r ymateb wedi bod yn wych.

“Mae Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Penybont ar Ogwr yn cynnig gwasanaeth gwerthfawr i nifer o fudiadau ac unigolion yn yr ardal ac maent i’w canmol am geisio sicrhau fod pawb â chyfle cyfartal i gael mynediad i’w gwasanaethau, boed hynny drwy’r Gymraeg neu’r Saesneg.”

 

Mae mwy o wybodaeth am y Cynnig Cymraeg ar gael yma.