Llun stoc o 2 ddyn ac 1 fenyw yn cael trafodaeth

Mae canlyniadau arolwg sy’n dangos cynnydd yn y niferoedd sy’n siarad yr iaith bob dydd yn newyddion calonogol medd Comisiynydd y Gymraeg, ond rhybuddiodd y gallai COVID-19 arwain at ostyngiad yn y ffigyrau.

 

Mae canlyniadau Arolwg Defnydd Iaith Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019 i 2020 yn dangos bod 56% o siaradwyr Cymraeg yn siarad yr iaith bob dydd, ffigwr sy’n cymharu â 53% yn 2013 i 2015.

 

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts: ‘Yn sicr, mae’r canlyniadau yn dangos cam i’r cyfeiriad cywir. Er hynny, mae targed Llywodraeth Cymru o ddyblu’r ganran o’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bod dydd erbyn 2050 yn uchelgeisiol iawn. Yr her nawr yw edrych ar yr ystadegau a gweld sut gellir sicrhau rhagor o gynnydd.

 

‘Rhwng cyhoeddi’r adroddiad hwn a’r adroddiad blaenorol, mae nifer o ddatblygiadau pwysig wedi bod o ran hybu a hyrwyddo’r Gymraeg – o gyflwyno safonau’r Gymraeg a sefydlu hawliau iaith, i strategaeth y Llywodraeth a’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, i enwi ond rhai.

 

‘Yn ystod yr hydref byddaf yn cyhoeddi Adroddiad 5-mlynedd ar sefyllfa’r Gymraeg, sef adroddiad cynhwysfawr sy’n pwyso a mesur y gwahanol ddatblygiadau a’r ffactorau sydd wedi effeithio ar yr iaith rhwng 2015 a 2020. Bydd yr adroddiad yn fodd o roi cyd-destun i ganlyniadau’r arolwg, a bydd hefyd yn cynnwys argymhellion ar gyfer gweithredu uchelgeisiol i sicrhau rhagor o gynnydd.’

 

Daeth arolwg y Llywodraeth i ben yn gynharach nag a gynlluniwyd yn sgil COVID-19 ac felly nid yw’n talu sylw i effaith y pandemig ar y Gymraeg.

 

Ychwanegodd Aled Roberts: ‘Gyda COVID-19 wedi arwain at newid yn y ffordd ydym yn byw ein bywydau ac ymwneud â’n gilydd, mae’n bwysig bod y Llywodraeth yn bwrw ati’n fuan i fesur effaith y pandemig ar yr iaith, a defnyddio’r canfyddiadau fel sail ar gyfer cynlluniau adfer ac ailgodi.’

 

Diwedd.