- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook

Disgrifiwch eich sefydliad.
Rhwydwaith Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cymru yw’r corff cymorth sector cenedlaethol yng Nghymru ar gyfer y celfyddydau, iechyd a llesiant. Mae ein haelodaeth yn cynnyddu ac yn cynnwys dros 900 o weithwyr proffesiynol yn y celfyddydau ac iechyd, gan gynrychioli sectorau’r celfyddydau, iechyd ac addysg uwch a gweithio ar draws yr ystod lawn o ymarfer celfyddydol mewn lleoliadau iechyd, celfyddydau a chymunedol.
Pa wasanaethau Cymraeg ydych chi’n cynnig?
Fel elusen fach ond nerthol, rydym wastad yn gweithio i gryfhau ein Cynnig Cymraeg. Mae mwy i'w wneud, ond rydym yn falch bod ein gwefan, ein cylchlythyr misol, ein cyfryngau cymdeithasol, a gwybodaeth am ddigwyddiadau oll yn ddwyieithog - ac os byddwch yn anfon e-bost atom yn y Gymraeg, byddwch yn derbyn ateb yn y Gymraeg. Rydym hefyd yn anelu i gynnal o leiaf dau ddigwyddiad iaith Gymraeg i aelodau eleni ac yn bwriadu adeiladu ar hyn yn flynyddol.
Pam fod defnyddio’r Gymraeg yn bwysig i chi?
Fel sefydliad cenedlaethol Cymreig balch, rydym yn gweithio gyda chyrff celfyddydol, ymarferwyr creadigol, a phartneriaid ym maes iechyd a'r trydydd sector - yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ein gweledigaeth yw defnyddio grym y celfyddydau a chreadigrwydd i drawsnewid iechyd, llesiant ac ymatebolrwydd ledled Cymru.
Er mwyn gwireddu'r weledigaeth honno'n llawn, rydym wedi ymrwymo i ymgorffori'r Gymraeg ym mhob rhan o'n sefydliad. Gyda'n partneriaid iechyd yn gweithio o dan Fesur y Gymraeg ac yn ymrwymo i ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, rydym mewn sefyllfa unigryw i arwain drwy esiampl - gan symud y ffocws o'r hyn y dylem ei wneud i'r hyn y gallwn ei wneud, a gobeithio byddwn yn ysbrydoli newid.
Disgrifiwch y broses o baratoi Cynllun Datblygu’r Gymraeg o’r penderfyniad i baratoi cynllun i dderbyn cydnabyddiaeth gan y Comisiynydd.
Roedd creu cynllun yn rhyfeddol o hawdd. Diflannodd unrhyw nerfusrwydd ar unwaith pan siaradom â Guto o dîm Hybu'r Comisiynydd - roedd o mor gefnogol. Gwelom yn fuan ein bod eisoes yn gwneud mwy nag yr oeddem wedi sylweddoli a bod gennym y potensial i wneud newidiadau ystyrlon i'n haelodau sy'n siarad Cymraeg, yn awr ac yn y dyfodol. Mae gwaith i'w wneud o hyd, ond gyda chynllun clir a chefnogaeth wych, mae'r cyfan yn teimlo'n bosib - ac yn gyffrous.
Pam ei fod yn bwysig eich bod wedi derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg?
Fel corff cenedlaethol yng Nghymru, mae'n bwysig ein bod yn tyfu ein gwasanaethau dwyieithog. Mae derbyn y Cynnig Cymraeg wedi rhoi'r hyder a'r anogaeth inni dyfu ein cynnig ac rydym yn falch o arddangos logo'r Cynnig Cymraeg.
Beth yw’r budd i chi o dderbyn y Cynnig Cymraeg?
Fel elusen genedlaethol, roedd hi'n bwysig i ni ddangos ein hymrwymiad i wasanaethau Cymraeg. Mae derbyn y Cynnig Cymraeg yn gydnabyddiaeth gan y Comisiynydd ein bod ar y llwybr cywir -gyda chynllun cryf i ddatblygu a chynnal ein gwasanaethau Cymraeg.
Beth yw manteision cynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i ddefnyddwyr eich gwasanaeth?
Mae gymaint o fanteision o gynnig gwasanaethau Cymraeg i'n haelodau. Mae'n sicrhau bod ein haelodau sy'n siarad Cymraeg - y rhai presennol a’r rhai sydd i ddod - yn gallu ymgysylltu'n llawn, yn hyderus ac yn gyfforddus â ni a'n gwasanaethau, gan dynnu rhwystrau a hyrwyddo cydraddoldeb.
Mae iaith hefyd wedi ei gysylltu’n ddwfn ag hunaniaeth ddiwylliannol, felly drwy gynnig ein gwasanaethau yn Gymraeg, rydym yn dangos parch at ddiwylliant a gwerthoedd ein cymunedau, gan feithrin mwy o ymddiriedaeth a chysylltiad â'n haelodau a'r sector.
Fel rhwydwaith cenedlaethol, drwy ddefnyddio'r Gymraeg rydym hefyd yn annog ac yn grymuso eraill ar draws y sector i wneud yr un peth - gan rannu arferion da.
Mae gan lawer o'n partneriaid, yn enwedig ym maes iechyd a gwasanaethau cyhoeddus, gyfrifoldebau o dan Fesur y Gymraeg. Mae cyd-fynd â'r rhain yn helpu i gryfhau ein partneriaethau a'n nodau cyffredin.
Ac yn olaf, wrth i'r defnydd o'r Gymraeg dyfu, yn enwedig ymhlith y cenedlaethau iau, mae ei hymgorffori nawr yn golygu y byddwn mewn sefyllfa well i gefnogi aelodau a chymunedau'r dyfodol.
Ydy’r Cynnig Cymraeg wedi gwneud gwahaniaeth i’ch gwaith?
Mae’r Cynnig Cymraeg wedi rhoi cynllun clir a chymhelliant i ni i ymgorffori'r Gymraeg yn ystyrlon ym mhopeth a wnawn - nid yn unig am ei fod yn rhywbeth rydym yn meddwl y dylem ei wneud, ond am ei fod yn ffordd o fod yn fwy cynhwysol a hygyrch i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae cael cydnabyddiaeth swyddogol gan Gomisiynydd y Gymraeg hefyd yn cryfhau ein hygrededd. Mae'n cadarnhau ein bod o ddifri ynghylch ein hymrwymiad i'r Gymraeg, ac mae'n dangos bod gennym gynllun strwythuredig a chynaliadwy ar waith.
Yn ogystal â hynny, mae'n newid ein meddylfryd o fodloni disgwyliadau yn unig i yrru newid. Mae'r Cynnig Cymraeg yn ein helpu i ysbrydoli eraill ar draws y sector i weld y Gymraeg fel cyfle yn hytrach na rhwystr.
Fyddech chi'n annog eraill i geisio am y Cynnig Cymraeg, a pham?
Yn bendant. Mae'r Cynnig Cymraeg yn rhoi cynllun clir ac addas i chi i ddatblygu eich gwasanaethau Cymraeg, ac os ydych yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill, mae'n un o'r ffyrdd cryfaf o ddangos eich ymrwymiad gwirioneddol i'r Gymraeg mewn ffordd gredadwy ac ymarferol.
Oes gyda chi unrhyw gyngor i sefydliadau eraill sy’n ystyried gweithio tuag at y Cynnig Cymraeg?
Peidiwch ag oedi. Cysylltwch â'r tîm heddiw. Gwnewch yr alwad gyntaf neu anfonwch yr e-bost cyntaf yn gofyn am gymorth i ddechrau. Byddant yn eich cynorthwyo drwy'r broses gyfan ac yn rhoi syniad clir i chi o'r camau nesaf i roi pethau ar waith.
Roedd y broses gyfan yn gyflymach nag yr oeddem wedi'i ddisgwyl. Mae ein bwrdd, staff a'n gweithwyr llawrydd yn falch o arddangos logo’r Cynnig Cymraeg.