- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook

Mae ani-bendod yn fusnes sy’n gwerthu dillad, anrhegion a deunydd ysgrifennu Cymraeg. Mae rhain yn amrywio o ddillad efo dywediadau Cymraeg i ddyddiaduron academaidd Cymraeg i athrawon. Mae’r busnes wedi'i leoli yn Aberystwyth. Darllenwch am eu profiad o dderbyn y Cynnig Cymraeg isod.
Pam fod defnyddio’r Gymraeg yn bwysig i chi?
Mae defnyddio'r Gymraeg yn holl bwysig i ni ac yn rhywbeth hollol naturiol i ddweud y gwir. Mae'n cysylltu ni gyda chyd-siaradwyr Cymraeg, cydberchnogion busnesau Cymraeg ac yn rhywbeth sydd wastad wedi bod yn rhan o'n gweledigaeth. Mae'n bwysig i ni ddangos bod yr iaith yn mynd o nerth i nerth ac yn gallu bod yn cŵl.
Disgrifiwch y broses o baratoi Cynllun Datblygu’r Gymraeg o’r penderfyniad i baratoi cynllun i dderbyn cydnabyddiaeth gan y Comisiynydd.
Mi oedd yn broses digon syml i ni, rydyn ni’n cyrraedd llawer o'r nodau o fewn ein cwmni yn naturiol, ond roedd hi'n braf gweld lle gallwn ni wella hefyd.
Pam ei fod yn bwysig eich bod wedi derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg?
Mae'n holl bwysig i ni wneud yn hollol glir i'n cwsmeriaid ac i sefydliadau eraill ein bod ni'n cefnogi cynlluniau o'r fath ac ein bod yn hynod falch o'r cymeradwyaeth yma.
Beth yw’r budd i chi o dderbyn y Cynnig Cymraeg?
Mae derbyn y Cynnig Cymraeg wedi agor y drws i amryw o gyfleoedd eraill megis cymorth grantiau a'n rhoi mewn cyswllt gyda chwmnïau eraill.
Beth yw manteision cynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i ddefnyddwyr eich gwasanaeth?
Mae'n hyfryd bod ein cwsmeriaid ni yn medru cysylltu â ni yn Gymraeg ar unrhyw blatfform. Mae'n galluogi ni i gynnig gwasanaeth cartrefol a chysurus i bobl Cymru. Hefyd, sylwad cyson a wnaed yw bod ein platfformau cymdeithasol yn help iawn i siaradwyr Cymraeg, sy'n wych.
Fyddech chi'n annog eraill i geisio am y Cynnig Cymraeg, a pham?
Buaswn yn annog unrhyw un i fynd am y Cynnig Cymraeg, rhoi Cymru ar y map go iawn, a phwy a ŵyr pa gyfleoedd a ddaw ohono.
Oes gyda chi unrhyw gyngor i sefydliadau eraill sy’n ystyried gweithio tuag at y Cynnig Cymraeg? Ewch amdani, does gennych chi ddim byd i golli.