Nyrs yn gwisgo cortyn gwddf Iaith Gwaith

Amlygodd COVID-19 y bwlch rhwng sefydliadau sydd â threfniadau da i ddarparu gwasanaethau Cymraeg a’r rheiny sydd heb drefniadau digonol. Dyna un o ganfyddiadau Comisiynydd y Gymraeg mewn adroddiad newydd sy’n canolbwyntio ar effaith y pandemig ar ddarpariaeth Gymraeg sefydliadau cyhoeddus.

Camu Ymlaen’ yw adroddiad sicrwydd diweddaraf y Comisiynydd, sef cyhoeddiad blynyddol sy’n rhoi barn y Comisiynydd ar y ffordd y mae sefydliadau’n gweithredu ac yn rhoi sylw i brofiadau defnyddwyr y gwasanaethau Cymraeg. Seiliwyd yr adroddiad eleni ar dystiolaeth gan sefydliadau am effaith y pandemig ar eu gallu i ddarparu gwasanaethau Cymraeg, ac arolwg cenedlaethol siaradwyr Cymraeg am eu profiadau’n defnyddio’r gwasanaethau.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts:

‘Mae COVID-19 wedi gorfodi pob un ohonom i fyw ein bywydau o ddydd i ddydd mewn ffyrdd gwahanol, a bu’n rhaid i sefydliadau cyhoeddus Cymru addasu’n sydyn i ‘normal newydd’. Amlygodd y pandemig y bwlch oedd eisoes yn ymddangos rhwng y sefydliadau sy’n cydymffurfio’n dda a’r rhai sydd heb drefniadau digonol. Manteisiodd rhai sefydliadau ar y cyfleoedd i arloesi tra bod y ddarpariaeth Gymraeg wedi llithro gan eraill. Yn gyffredinol, daeth yn amlwg bod angen i sefydliadau wneud mwy i hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg er mwyn cynyddu defnydd ohonynt.

'Nid pwyntio bys yw bwriad yr adroddiad hwn, yn hytrach amlygu’r gwersi sydd i’w dysgu er mwyn galluogi sefydliadau i gymryd camau i gryfhau eu darpariaeth Gymraeg a chynyddu defnydd ohonynt i'r dyfodol.’

Casglwyd barn y cyhoedd drwy Arolwg Omnibws Siaradwyr Cymraeg ym mis Tachwedd 2020. Roedd y canlyniadau’n cynnwys:

  • 82% o’r siaradwyr Cymraeg a holwyd yn cytuno eu bod, fel arfer, yn gallu delio â sefydliadau cyhoeddus yn Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny. 
  • 70% o’r siaradwyr Cymraeg a holwyd yn cytuno bod gwasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yn gwella – cynnydd o 6% dros ddwy flynedd.  

Ychwanegodd Aled Roberts: ‘Er yr holl heriau eleni, mae’r ymchwil yn dangos parhad yn y patrwm fod profiadau siaradwyr Cymraeg wedi gwella ers sefydlu hawliau iaith yn sgil safonau’r Gymraeg. Ond mae angen gwella’r profiadau hyn ymhellach, ac er mwyn fy ngalluogi i osod safonau ar ragor o sefydliadau, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru baratoi safonau a chyflwyno rheoliadau.

‘Rwyf wedi cyflwyno rhaglen i’r Llywodraeth ei hystyried ar gyfer symud y gwaith hwn yn ei flaen cyn gynted â phosibl, ac rwy’n edrych ymlaen at weld eu cynlluniau i fynd i’r afael â’r dasg.’

Diwedd