Logo IALC

Comisiynwyr iaith o bedwar ban byd yn cyfarfod yng Nghymru i ddathlu dengmlwyddiant y Gymdeithas.

Cynhelir cynhadledd ryngwladol, a fydd yn rhoi cyfle i archwilio gwir effeithiau deddfu o blaid ieithoedd yng Nghymru a thu hwnt, yng Nghaerdydd yr wythnos hon (10–11 Mehefin). Bydd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith eleni yn dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed ac roedd gan Gymru rôl ganolog yn ei sefydlu. 

Yn ogystal â sesiynau ymarferol yn rhannu profiad sefydliadau o Gymru  bydd cyfraniadau gan siaradwyr rhyngwladol fel Raymond Théberge, Comisiynydd Ieithoedd Swyddogol Canada, Dr Fernand de Varennes, Cyn-Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar faterion lleiafrifol a Chomisiynydd Iaith newydd Iwerddon, Séamas Ó Concheanainn. 

Un o sylfaenwyr y Gymdeithas yw'r Athro Colin H. Williams, yr arbenigwr cydnabyddedig rhyngwladol ar bolisi a chynllunio iaith, ac mae'n falch iawn o weld sut mae'r Gymdeithas wedi datblygu, 

"Rwy’n cofio, yn 2013, Peadar Ó Flatharta, Seán Ó Cuirreáin, a finnau yn mynd ati i drefnu cynhadledd i drafod hawliau dynol, yn Nulyn. Yn dilyn y trafodaethau yn y gynhadledd honno, cafwyd y syniad o ffurfio Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith.  

"Ynghyd â Chomisiynydd yr Iaith Wyddeleg ar y pryd a'r Comisiynydd Ieithoedd Swyddogol Ffederal yng Nghanada, fe wnaethom adnabod grŵp o aelodau posibl a fyddai'n elwa o rannu profiadau ac arbenigedd er budd y siaradwyr ieithoedd lleiafrifol a swyddogol a gynrychiolir ganddynt.  

"Mae'r Gymdeithas yn dathlu degawd o waith, ac mae llawer iawn i'w ddathlu. Mae'r aelodau wedi cyfrannu'n sylweddol at godi statws ieithoedd swyddogol ac wedi bod yn allweddol wrth gynnal hawliau iaith, yn eu gwledydd eu hunain a thu hwnt.  

"Mae'r ffordd y mae'r Gymdeithas wedi esblygu ac aeddfedu yn fy llenwi â balchder ac mae'n ymddangos yn briodol bod y degfed pen-blwydd yn cael ei ddathlu yma yng Nghymru gan fod Comisiynydd y Gymraeg wedi bod yn aelod allweddol o'r cychwyn."   

Mae'r Gymdeithas wedi croesawu dau aelod newydd o Ganada eleni, Comisiynydd Ieithoedd Cynhenid a Chomisiynydd Iaith Ffrangeg Quebec. Yn ogystal â hynny ac i feithrin mwy o ymgysylltiad a chydweithio rhwng y Gymdeithas a sefydliadau eraill sy'n gweithio ym maes hawliau iaith, mae'r Gymdeithas wedi creu categori newydd o aelodaeth – aelodaeth arsylwi – yn ddiweddar. Bydd yr aelodau arsylwi cyntaf erioed o Guernsey a Gogledd Macedonia yn cael eu croesawu'n swyddogol yng Nghaerdydd.  

Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, yw cadeirydd presennol y Gymdeithas ac mae'n falch iawn o fod yn cynnal y digwyddiad, 

"Dros y blynyddoedd mae'r cyfle i drafod a meithrin rôl comisiynwyr iaith yn ogystal â rhannu arferion effeithiol gyda gwledydd eraill wedi bod yn rhan greiddiol o'n gwaith. Mae angen gweld y Gymraeg yng nghyd-destun byd amlieithog ac mae gwaith y Gymdeithas a'r gynhadledd hon yn ein galluogi i arddangos sut mae'r iaith yn cael ei defnyddio'n naturiol o ddydd i ddydd. 

"Rwy'n hynod falch mai Cymru yw cartref y gynhadledd yn y flwyddyn arbennig hon wrth i’r Gymdeithas ddathlu ei phen-blwydd yn ddeg oed." 

Nod Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith yw i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ieithyddol a hawliau ieithyddol ledled y byd a chefnogi comisiynwyr iaith fel y gallant weithio wrth lynu wrth y safonau proffesiynol uchaf. 

Dywedodd Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, 

"Yng Nghymru, mae gennym weledigaeth glir ar gyfer y Gymraeg, a chynlluniau arloesol i droi’r weledigaeth yna’n realiti. Mae gennym lawer i'w rannu â chymunedau ieithoedd lleiafrifol eraill ar draws y byd – a llawer i'w ddysgu wrth gwrs.  

“Mae'n wych gweld y Gymdeithas yn ymgynnull yng Nghymru wrth iddi ddathlu degawd o waith pwysig, yn diogelu ac yn ymgyrchu dros ieithoedd lleiafrifol a swyddogol." 

Wrth edrych ymlaen at y gynhadledd, dywedodd Shirley MacLean KC, Comisiynydd Ieithoedd swyddogol New Brunswick yng Nghanada, 

"Rydw i , fel fy nghyd-aelodau, yn  edrych ymlaen yn fawr at ddod i Gymru ar gyfer y gynhadledd wrth i ni ddathlu ein pen-blwydd arbennig. Mae Cymru wastad wedi cael ei gweld fel un o sylfaenwyr y Gymdeithas felly mae'n briodol ein bod ni'n dathlu yno.  

"Mae'r trafodaethau yn y cynadleddau hyn bob amser yn oleuedig iawn ac rwy'n tybio y byddwn yn gadael gyda llawer o syniadau cadarnhaol ar gyfer y dyfodol y gallwn eu datblygu yn ein gwledydd ein hunain." 

Cynhelir y gynhadledd yng Nghaerdydd ar 11 Mehefin 2024 gyda digwyddiad lansio, a noddir gan Darwin Gray, ar noson 10 Mehefin a bydd yr aelodau yn cynnal eu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn Sain Ffagan ddydd Mercher, 12 Mehefin.   

Bydd y gynhadledd yn cael eu ffrydio'n fyw ar wefan Comisiynydd y Gymraeg.