Yn dilyn ymchwiliad eang gan Gomisiynydd y Gymraeg a gosod camau gorfodi mae Cyngor Blaenau Gwent wedi ymrwymo i wella eu gwasanaethau Cymraeg ar draws y sefydliad.

Wrth fonitro ac asesu gwasanaeth y Cyngor, daethpwyd i’r canlyniad bod amheuaeth o fethiant i gydymffurfio â’r Safonau cyflenwi gwasanaethau sy’n ymwneud â gwasanaethau ffôn y Cyngor. Ond wedi cynnal ymchwiliad, canfuwyd rhestr o fethiannau i gydymffurfio gyda Safonau’r Gymraeg yn y meysydd gwasanaethau ffôn, hybu gwasanaethau, asesu sgiliau iaith staff, darparu cyfleoedd hyfforddi ac asesu anghenion iaith swyddi.

Yn ôl y Comisiynydd, mae angen mynd i’r afael â chynlluniau gweithredu’r Cyngor wrth gynnig gwasanaethau Cymraeg,

“Ar ôl cychwyn ymchwilio i wasanaethau galwadau ffôn y Cyngor, daeth yn amlwg nad oedd yr un o aelodau’r ganolfan a oedd yn delio gyda galwadau ffôn yn gallu siarad

Cymraeg. Cododd hyn bryderon fod problemau ehangach o ran recriwtio, hyfforddi ac ymwybyddiaeth o’r Gymraeg o fewn y sefydliad ac ehangwyd sgôp yr ymchwiliad.

“Mae camau wedi eu gosod  er mwyn gorfodi’r Cyngor i gydymffurfio gyda Safonau’r Gymraeg yn y meysydd gwasanaethau ffôn, hybu gwasanaethau, asesu sgiliau iaith staff, darparu cyfleoedd hyfforddi ac asesu anghenion iaith swyddi."

 

Ychwanegodd y Comisiynydd,

“Er mwyn llwyddo i gynnig gwasanaethau Cymraeg o safon, mae’n rhaid i sefydliad ystyried y Gymraeg o frig y sefydliad i lawr. Mae’n braf nodi fod y Cyngor wedi cydweithredu’n llawn gyda’n hymchwiliad ac wedi derbyn fod angen diwygiadau i’w trefniadau gweithredu.

“Edrychaf ymlaen at weld y diwygiadau yn cael eu rhoi ar waith a’r gwasanaeth, o ganlyniad, ar gael yn Gymraeg i ddefnyddwyr Blaenau Gwent.”

 

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi derbyn canfyddiadau adroddiad y Comisiynydd yn llawn a nododd Damien McCann, y Prif Weithredwr Interim,

“Rydym yn derbyn dyfarniad y Comisiynydd ac wedi cydweithio’n agos â’i swyddfa drwy gydol yr ymchwiliad. O ganlyniad i hynny rydym eisoes wedi ymrwymo i roi mwy o adnoddau tuag at wella sefyllfa’r Gymraeg o fewn y Cyngor ac i ymgymryd yn llawn â’r camau gweithredu.

“Yn ogystal, ac er mwyn sicrhau fod y gwaith yn mynd rhagddo yn llawn, rydym wedi sefydlu grŵp gweithredol a fydd yn adrodd yn uniongyrchol i’r Prif Weithredwr ar y camau gweithredu.”

Gallwch weld copi o'r adroddiad yma