Cyfarfod rhwng swyddogion Comisiynydd y Gymraeg a Tŷ Gobaith

Mewn sesiwn rithiol yn yr Eisteddfod AmGen, ddydd Iau 5 Awst, lansiodd Comisiynydd y Gymraeg a Tŷ Gobaith Gynnig Cymraeg yr hosbis plant.

Y Cynnig Cymraeg yw cydnabyddiaeth y Comisiynydd i fusnesau ac elusennau y mae wedi cydweithio â nhw i ddatblygu defnydd o’r Gymraeg. Tŷ Gobaith yng Nghonwy yw’r darparwr gofal iechyd cyntaf i ddod yn rhan o’r cynllun, diolch i’w waith pwysig yn darparu gofal iechyd arbenigol drwy gyfrwng y Gymraeg i deuluoedd a phlant difrifol wael.

Yn y sesiwn clywyd gan deulu sy’n defnyddio gwasanaethau Tŷ Gobaith, a chafwyd cyfle i ddysgu am y ffordd y mae’r elusen wedi sicrhau defnydd o’r Gymraeg yn ei gwaith o ddydd i ddydd.

Dywedodd Kelly Hughes, Swyddog Codi Arian gyda Tŷ Gobaith: ‘Elusen leol ydy Tŷ Gobaith ac mae defnyddio’r Gymraeg yn hanfodol i ni i deimlo’n agos at ein cymunedau. Mae teuluoedd yn dod aton ni o ogledd a chanolbarth Cymru, ac mae llawer ohonynt yn siarad Cymraeg. Rydyn ni wedi mynd ati i sicrhau bod gofalwyr a nyrsys sy'n siarad Cymraeg yn edrych ar ôl y teuluoedd hynny.

‘Mae’r Cynnig Cymraeg gan y Comisiynydd yn ffordd o ddangos ein bod yn ymrwymo i gynnig gwasanaeth Cymraeg i’r teuluoedd sy’n dod yma’ 

Bachgen bach chwe mlwydd oed o Lanrwst yw Bedwyr Davies ac mae’n byw â chyflwr genetig hynod o brin o’r enw Coffin-Siris Syndrome sy’n achosi anawsterau dysgu a iechyd sylweddol. Mae ei deulu’n gwerthfawrogi cael cynnig gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg gan Tŷ Gobaith.

Dywedodd ei fam, Nerys Davies: ‘Mae Bedwyr yn mynd i’r hosbis am ysbaid bedair gwaith y flwyddyn, ac rydyn ni fel rhieni a’i frawd hefyd yn dibynnu ar Tŷ Gobaith am gyngor, cefnogaeth a chwnsela. Mae'r gefnogaeth i gyd yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Cymraeg yw iaith ein cartref a iaith yr ysgol, ac felly mae cael y cysondeb yna yn yr iaith yn hollbwysig i Bedwyr wrth ymweld â Tŷ Gobaith. Mae’n bwysig i ni fel teulu hefyd, ac yn haws i ni fynegi ein hunain a’n pryderon yn ein hiaith gyntaf, yn enwedig wrth drafod pethau anodd ac agos iawn i’r galon.’

Dywedodd Awel Trefor, Swyddog Hybu gyda Chomisiynydd y Gymraeg: ‘Mae’r Cynnig Cymraeg yn galluogi busnesau ac elusennau i roi gwybod i ddefnyddwyr gwasanaeth, gwirfoddolwyr a chwsmeriaid beth yn union sy’n cael ei gynnig yn y Gymraeg. Rydyn ni’n cynllunio ac yn cydweithio â sefydliadau i’w helpu i greu cynllun datblygu'r Gymraeg ac i osod targedau. Gall sefydliadau gyflwyno eu Cynnig Cymraeg i ni am gydnabyddiaeth swyddogol a bydd logo’r Cynnig Cymraeg yn cael ei ddefnyddio ganddynt.

‘Y rheswm dros gynnal y sesiwn yma fel rhan o arlwy’r Eisteddfod AmGen yw i dynnu sylw at waith Tŷ Gobaith a  phwysigrwydd darparu gofal iechyd yn y Gymraeg. Rydyn ni hefyd eisiau annog elusennau eraill i gydweithio â ni ac i ddatblygu Cynnig Cymraeg eu hunain.’

Gallwch wylio’r sesiwn ar wefan Eisteddfod Genedlaethol Cymru yma Cynnig Cymraeg Tŷ Gobaith | Eisteddfod Genedlaethol

Cysylltwch â thîm hybu Comisiynydd y Gymraeg i gael mwy o wybodaeth am y Cynnig Cymraeg i fusnesau ac elusennau.