Gliniadur a ffon symudol

Yn unol â rôl Comisiynydd y Gymraeg fel eiriolwr annibynnol ar ran siaradwyr Cymraeg, rydym yn cyhoeddi’r nodyn briffio yma sy’n cynnig sylwadau ynghylch Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru (y cynllun). Mae’r diwydiant amaethyddol yn rhan hanfodol o economi a diwylliant cymunedau gwledig Cymru, lle mae’r Gymraeg yn iaith naturiol bob dydd. Mae sicrhau ffyniant yr economi wledig ac amaethyddol felly yn hollbwysig ar gyfer sicrhau ffyniant yr iaith Gymraeg.

Rydym yn pryderu y byddai cyflwyno’r Cynllun yn ei wedd bresennol yn niweidiol i hyfywedd y Gymraeg mewn ardaloedd gwledig, ac yn tanseilio strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Mae’r asesiad effaith economaidd y Cynllun a’r asesiad effaith ar y Gymraeg yn ategu’r pryderon hyn. Mae’r asesiadau hyn yn amcangyfrif y bydd dirywiad sylweddol i faint yr economi wledig o gyflwyno’r Cynllun, effaith sy’n rhwym o gael effaith negyddol ar gymunedau gwledig lle mae dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg. Mae’n destun pryder nad yw'r asesiad effaith na’r Cynllun yn egluro mewn manylder sut y bwriedir osgoi’r canlyniadau negyddol hyn, nac ychwaith sut gellir sicrhau bod y Cynllun yn cefnogi seilwaith economaidd cymunedau Cymraeg eu hiaith.

Mae’n hanfodol nad yw’r Cynllun yn arwain at ansefydlogi’r diwydiant a’i gweithwyr, a thrwy hynny ansefydlogi cymunedau sy’n naturiol Gymraeg eu hiaith. Rydym yn gobeithio bydd y Llywodraeth, trwy’r ymgynghoriad a’r ymrwymiad cyhoeddus i ail edrych ar y Cynllun, yn llwyddo i ddarganfod ffyrdd o gryfhau’r Cynllun sy’n bodloni ein pryderon.

Yn ei hanfod credwn fod rhaid i’r Llywodraeth sicrhau bod y Cynllun yn cwrdd â holl amcanion y Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (Deddf Amaethyddiaeth), ac yn benodol, yr amcan o ‘gynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd’. Mae’r asesiad effaith ar y Gymraeg a'r asesiad economaidd yn awgrymu nad yw’n cwrdd â’r amcan hwn ar hyn o bryd.