Derbyniodd Comisiynydd y Gymraeg gwynion gan aelodau o’r cyhoedd am benderfyniad Cyngor Sir Fynwy i newid eu polisi Rhifo ac Enwi Strydoedd.

Bwriad Comisiynydd y Gymraeg yn yr ymchwiliad hwn oedd ymchwilio a oedd proses benderfynu'r Cyngor wrth ddiwygio’r polisi Rhifo ac Enwi Strydoedd yn cydymffurfio gyda’r Safonau. Yn ôl safonau’r Gymraeg, roedd y Cyngor angen ystyried pa effeithiau, os o gwbl, y byddai y penderfyniad yn ei gael ar y cyfleoedd sydd i ddefnyddio’r Gymraeg, ac i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Meddai Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, “Yn sgil derbyn cwyn gan aelod o’r cyhoedd, cynhaliais ymchwiliad dan adran 71 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 er mwyn dyfarnu a fu methiant gan Gyngor Sir Fynwy i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg.”

Noda’r dyfarniad nad yw Cyngor Sir Fynwy wedi cydymffurfio â’r safonau ar y sail:

  • nad yw’r dystiolaeth yn dangos fod y Cyngor wedi gwneud ymdrech gydwybodol i adnabod ac yna ystyried yr effeithiau y byddai ei benderfyniad i ddiwygio y polisi Rhifo ac Enwi Strydoedd y Sir yn ei gael ar gyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, ac ar beidio ȃ thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
  • nad yw’r dystiolaeth yn dangos fod Cyngor Sir Fynwy wedi gwneud ymdrech gydwybodol i ystyried sut y gellid diwygio y polisi Rhifo ac Enwi Strydoedd y Sir i gael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar gyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
  • nad yw’r dystiolaeth yn dangos fod Cyngor Sir Fynwy wedi gwneud ymdrech gydwybodol i ystyried sut y gellid diwygio y polisi Rhifo ac Enwi Strydoedd y Sir fel na fuasai yn cael effeithiau andwyol, neu fel y byddent yn cael effeithiau llai andwyol, ar gyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Yn ôl polisi gwreiddiol Cyngor Sir Fynwy roedd enwau uniaith Saesneg ar arwyddion ffordd yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg os oedd angen arwydd newydd neu adnewyddu’r arwydd. Nid oedd y cyfieithiad Cymraeg hwnnw yn cael ei wneud yn enw swyddogol ar y stryd fodd bynnag, gan fod y Cyngor yn nodi y byddai hynny’n ‘weithdrefn lafurus a chostus iawn sy’n cymryd amser’.

Honnodd y Cyngor eu bod yn diwygio’r polisi gan fod cael cyfieithiadau Cymraeg ‘answyddogol’ ar arwyddion yn achosi risg o ran diogelwch y cyhoedd gan na fyddai’r enwau yma wedi eu cofrestru gyda’r gwasanaethau brys.

Honnodd y Cyngor hefyd fod y polisi wedi ei ddiwygio i gydymffurfio gyda Chod Ymarfer sy’n rhoi cyngor ymarferol i sefydliadau ar sut i weithredu’r safonau. Mae’r Cyngor wedi nodi eu bod wedi dewis canolbwyntio ar sicrhau bod enw pob stryd newydd yn uniaith Gymraeg neu'n ddwyieithog yn y Sir.

Gosododd y Dirprwy Gomisiynydd 15 o gamau gorfodi ar y Cyngor er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r safonau wrth lunio neu addasu polisi yn y dyfodol.

Meddai Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, “Mae Mesur y Gymraeg 2011 (Cymru) yn ei gwneud hi’n orfodol i sefydliadau penodol i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg drwy ystyried y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.”

Ychwanegodd, “Prif nod y Comisiynydd yw i hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Ni ddylai sefydliadau gymryd penderfyniadau i wneud llai er lles y Gymraeg nag yr oeddent yn ei wneud yn flaenorol, nac i wneud y lleiafswm ble roedd camau mwy blaengar o ran y Gymraeg yn cael eu gwneud yn barod.

“Mae’r awgrym sydd yn cael ei wneud droeon gan y Cyngor fod y polisi wedi ei ddiwygio er mwyn ‘cydymffurfio’ gyda’r Cod Ymarfer yn anghywir, ac mae’n mynd yn erbyn ysbryd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a rôl Comisiynydd y Gymraeg.”