Graffeg o ddau berson yn eistedd wrth fwrdd yn cael sgwrs

Yn ei hadroddiad sicrwydd cyntaf ers cychwyn ei swydd fel Comisiynydd y Gymraeg, mae Efa Gruffudd Jones yn annog sefydliadau ar draws Cymru, nid yn unig i ddarparu gwasanaethau Cymraeg, ond i’w hyrwyddo hefyd. Mae’r adroddiad hwn, sydd yn dwyn y teitl Codi’r Bar yn gyfle i adlewyrchu ar y ffordd y mae sefydliadau yn meddwl am y Gymraeg wrth lunio polisïau ac wrth gynllunio a chyflenwi gwasanaethau yn y Gymraeg.  

Er ei bod yn cydnabod bod lefelau cydymffurfiaeth yn gyffredinol wedi gwella, yn enwedig ymysg cyrff sydd wedi dod o dan Safonau’r Gymraeg ers amser, noda’r adroddiad fod angen mynd i’r afael â‘r her o greu awyrgylch lle gellir defnyddio’r Gymraeg yn naturiol bob dydd. Mae hyn yn golygu gwella’r gwasanaethau a gaiff eu cynnig ar lafar i bobl, boed hynny dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. 

Yn ôl Efa Gruffudd Jones, mae’r gweithle yn allweddol o safbwynt yr iaith, 

“Mae twf mewn addysg Gymraeg yn hanfodol ond mae angen sicrhau hefyd fod cyfleoedd i’n pobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg yn y byd gwaith wedi hynny. Mae’n braf gweld fod gwasanaethau ysgrifenedig Cymraeg ar gael yn helaeth ond prin yw’r cynnydd yn y gwasanaethau llafar sydd ar gael sef yr hyn y mae pobl yn ei ddweud y maent ei eisiau yn fwy na dim. 

“Rwy’n cydnabod fod recriwtio er mwyn cyflenwi’r gwasanaethau hyn yn medru bod yn heriol ond mae angen rhoi mwy o bwys ar y Gymraeg fel sgìl ac rwy’n annog 

sefydliadau i greu strategaethau cynllunio gweithlu dwyieithog.” 

Ymysg y canfyddiadau eraill o’r adroddiad mae: 

  • 95% yn derbyn cyfarchiad yn y Gymraeg wrth wneud galwad ffôn i sefydliad cyhoeddus 
  • 90% o negeseuon Twitter a Facebook sefydliadau cyhoeddus ar gael yn Gymraeg 
  • Y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn 33% o’r tudalennau gwefan arolygwyd dros y flwyddyn 
  • 72% yn cytuno bod gwasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yn gwella 
  • Bron i 75% o siaradwyr Cymraeg yn gweld fod cyfle iddynt ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd. 

Elfen bryderus arall ddaeth i’r wyneb oedd fod canran sylweddol o siaradwyr Cymraeg  wedi cael profiad o rywun arall yn eu hatal rhag siarad yr iaith yn eu bywydau bob dydd. Nododd 18% eu bod wedi profi hyn dros y 12 mis diwethaf ond roedd hynny yn cynyddu i 29% o’r rheiny a holwyd rhwng 16 a 34 oed. 

Mae hon yn sefyllfa hollol annerbyniol meddai Efa Gruffudd Jones, 

“Mae’r math hwn o negyddiaeth tuag yr iaith Gymraeg, heb os, yn effeithio ar hyder siaradwyr Cymraeg ac yn siŵr o gael effaith ar lefelau defnydd o’r Gymraeg.” 

Ond mae Efa o’r farn fod gan sefydliadau awydd i wella yn barhaus, 

“Ers cychwyn yn y swydd hon ddechrau’r flwyddyn rwyf wedi cael y cyfle i gyfarfod a sgwrsio gyda nifer fawr o’n rhanddeiliaid ac mae’r agwedd yn gyffredinol yn gadarnhaol tuag at y Gymraeg.  

“Hoffwn weld pob sefydliad yn cymryd cyfrifoldeb dros sicrhau fod egwyddorion Mesur y Gymraeg wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn eu sefydliadau a’u bod hefyd yn gosod arweiniad sy’n croesawu’r defnydd o’r Gymraeg 

“Byddaf yn parhau i fonitro ac yn ymyrryd lle bo angen gan gynnig cymorth ac arweiniad er mwyn sicrhau fod y Gymraeg yn ganolog i’n gwasanaethau cyhoeddus.”  

Gellir darllen yr Adroddiad llawn yma.