Cofio Aled Roberts yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Bydd digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni i gofio’r diweddar Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg rhwng 2019 a 2022, a fu farw fis Chwefror.

Bydd y digwyddiad yn talu teyrnged i Aled a’i waith dros y Gymraeg ac yn benodol ym myd addysg. Roedd yn angerddol dros ddatblygu sgiliau Cymraeg pobl ifanc a rhoi’r cyfle iddynt i wneud yn fawr o’u dwyieithrwydd. Dyma fydd y testun dan sylw mewn trafodaeth banel arbennig ym mhabell y Cymdeithasau 2 ar y Maes ddydd Llun. Bydd yn gyfle i drafod addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg yn ogystal â chofio a dathlu cyfraniad Aled Roberts. 

Mae croeso i bawb fynychu, a chaiff y digwyddiad ei ffrydio'n fyw ar dudalen Facebook Comisiynydd y Gymraeg.