Siaced gyda logo Lidl a bathodyn Iaith Gwaith

Yr archfarchnad Lidl yw’r archfarchnad gyntaf i gael cymeradwyaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg i’w Cynnig Cymraeg.

Gyda 55 o siopau ledled Cymru, mae Lidl wedi bod yn gweithio'n galed i gyflwyno a chynnwys y Gymraeg mewn siopau. Mae’r gymeradwyaeth hon yn cydnabod ymrwymiad parhaus Lidl i’r achos.

Cydnabyddiaeth swyddogol y Comisiynydd yw’r Cynnig Cymraeg a chaiff ei rhoi i sefydliadau sydd wedi cydweithio â swyddogion y Comisiynydd i gynllunio darpariaeth Gymraeg uchelgeisiol. Mae’n cefnogi cynllun tymor hir y Comisiynydd i sicrhau y gall pobl ddefnyddio’r iaith Gymraeg ymhob agwedd o’u bywydau, ac ar draws Cymru.

Dywedodd Ute Thomas, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Lidl yng Nghymru: Yn Lidl, rydym wedi ymrwymo i fod yn fanwerthwr cynhwysol, ar gyfer ein cwsmeriaid, ein cymunedau, ein cydweithwyr a’n darpar gydweithwyr. Yng Nghymru, mae diogelu a hyrwyddo ein hiaith yn rhan enfawr o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn gynhwysol. Ers 2014, rydym wedi darparu arwyddion dwyieithog, ar y cyd ag awdurdodau cynllunio lleol, ac ers hynny, rydym wedi cynyddu ein hymrwymiad i’n siaradwyr Cymraeg.

“Rydym wrth ein bodd i dderbyn cymeradwyaeth i’n Cynnig Cymraeg, i gydnabod y gwaith caled hwn.”

Yn ogystal ag arwyddion dwyieithog, mae Lidl wedi buddsoddi mewn cynnig gwasanaethau Cymraeg ar draws pob agwedd o’i waith yng Nghymru, gan gynnwys:

  • Cyhoeddiadau mewn siopau
  • Bathodynnau enwau gweithwyr
  • Llinellau ffôn cymorth cwsmer a chyfathrebu ysgrifenedig
  • Pecynnu ar holl gynnyrch Cymreig lleol, sydd ar hyn o bryd yn golygu 70 darn o gynnyrch
  • Tiliau hunan-wasanaeth mewn rhai siopau
  • Diweddariadau cyfryngau cymdeithasol perthnasol

Ychwanegodd Ute Thomas: “Rydym yn teimlo’n angerddol am y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ac am gefnogi’r hyn sy’n wirioneddol bwysig i’n cwsmeriaid. Byddwn yn parhau i chwilio am ffyrdd lle gallwn gefnogi’r iaith Gymraeg, sydd yn elfen mor bwysig o hunaniaeth a threftadaeth ein cymunedau.”

Mae Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, yn hynod o falch ag agwedd Lidl,

“Mae’r Cynnig Cymraeg yn rhoi cyfle i fudiadau godi ymwybyddiaeth am eu gwasanaethau Cymraeg a fydd yn ei dro yn arwain at gynnydd yn y defnydd o wasanaethau Cymraeg yn ein bywydau bob dydd

“Prif nod Comisiynydd y Gymraeg yw hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg. Mae gweld archfarchnad â phroffil uchel fel Lidl yn arwain y ffordd yn hynod gadarnhaol a gobeithio y gwelwn archfarchnadoedd a busnesau eraill yn dilyn yr un trywydd. Byddwn yn gweithio gyda Lidl wrth iddynt anelu at gynyddu’n barhaus y gwasanaethau Cymraeg gaiff eu cynnig a thrwy hynny wella’r profiadau i gwsmeriaid a staff.

“Hoffwn annog sefydliadau tebyg eraill i weithio gyda ni i ddatblygu a gwella eu harlwy Cymraeg.”

Llynedd cyhoeddodd y cwmni ystod newydd o gynnyrch cig eidion Cymreig, fel rhan o’i ymrwymiad i gefnogi ffermwyr lleol. Gan weithio'n uniongyrchol gyda 130 o ffermydd a theuluoedd ffermio ledled Cymru, mae modd olrhain yr ystod yn llawn o’r cae i’r storfa; gan alluogi siopwyr Cymreig i fwynhau cig eidion a fagwyd yn lleol ac sydd o’r ansawdd gorau. Caiff y statws hwn ei gydnabod ymhellach gan nod Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) y cig.

Ers lansio’r cynllun ym mis Mehefin 2020, mae cydnabyddiaeth wedi ei rhoi i Gynnig Cymraeg 63 o fusnesau ac elusennau, ac mae swyddfa’r Comisiynydd yn gweithio gyda thros gant o sefydliadau eraill ar ddatblygu eu cynlluniau. 

Mae mwy o wybodaeth am y Cynnig Cymraeg ar gael yma.