Comisiynydd y Gymraeg yn cyfarfod â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol

Yn ddiweddar bu Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg ar ymweliad â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd i drafod eu gwaith a gweld sut mae’r Gymraeg yn cael ei ymgorffori ynddo. Yma mae Ruth Studley, Pencampwr Iaith Gymraeg y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn sôn mwy am bwysigrwydd y Gymraeg i’r sefydliad. 

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yw cynhyrchydd annibynnol mwyaf y DU o ystadegau swyddogol a'r un gaiff ei gydnabod fel ei sefydliad ystadegol cenedlaethol. Rydym yn gyfrifol am gasglu a chyhoeddi ystadegau sy'n ymwneud â'r economi, poblogaeth a chymdeithas ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. 

Fi yw Cyfarwyddwr Newid Ystadegau Poblogaeth a Mudo y SYG, a'n Pencampwr  Iaith Gymraeg presennol. Rydym yn ymfalchïo yn ein hymrwymiad i'r iaith Gymraeg, ac mae gennym Bencampwr y Gymraeg penodol ers sawl blwyddyn. Mae fy rôl fel Pencampwr y Gymraeg yn cynnwys bod yn eiriolydd ar lefel uwch ar gyfer defnydd mewnol o’r Gymraeg a meithrin diwylliant o ddwyieithrwydd, yn ogystal ag ymgorffori darpariaeth ddwyieithog ar draws y busnes i gynnig gwasanaethau rhagorol i bobl Cymru. Rwy'n eithaf newydd i fod yn Bencampwr Iaith Gymraeg y SYG, ond rwy'n teimlo'n angerddol iawn dros y Gymraeg, ac wedi gweithio yn y gorffennol mewn tîm dwyieithog yn Llywodraeth Cymru. 

Fy mlaenoriaeth yw sicrhau bod presenoldeb a defnydd o'r Gymraeg yn cael ei normaleiddio ar draws y SYG i adlewyrchu'r gymdeithas ddwyieithog yr ydym yn byw ac yn gweithio ynddi yng Nghymru. 

Ym mis Hydref 2023, lansiwyd yn swyddogol ein cynllun iaith Gymraeg newydd wedi'i ddiweddaru, sy'n fwy uchelgeisiol, blaengar a rhagweithiol yn y gwasanaethau rydym yn eu cynnig drwy’r Gymraeg. Er mwyn ei weithredu, paratôdd Tîm yr Iaith Gymraeg gynllun gweithredu a chyfathrebu cynhwysfawr er mwyn codi ymwybyddiaeth o ofynion y cynllun ymysg yr holl staff, gan ddatblygu'r diwylliant mewnol hwnnw o ddwyieithrwydd ar yr un pryd.  

Mae'r tîm wedi gweithio'n agos gydag adrannau o’r busnes sy'n cysylltu'n rheolaidd â'r cyhoedd a rhanddeiliaid yng Nghymru i sicrhau bod ein holl gydweithwyr yn deall y cynllun a'r ffordd orau o ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagweithiol. Mae'r gwaith hwn wedi cynnwys gweithdai pwrpasol, datblygu adnoddau digidol, Cwestiynau Cyffredin a siartiau llif i ymgorffori arferion y cynllun mewn prosesau gwaith ar draws y busnes. 

Rydym hefyd wedi datblygu cynllun gweithredu pedair blynedd i helpu'r SYG i gyrraedd y nodau yn y cynllun. Mae'r cynllun hwn yn gosod trywydd clir i gynyddu ein galluoedd dwyieithog a gwella ein gwasanaethau ar gyfer aelodau'r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru. Mae'r cynllun yn ein galluogi i gadw llygad barcud ar sut rydym yn cydymffurfio â'r cynllun ac yn caniatáu monitro effeithlon a’r gallu i adnabod unrhyw risgiau posibl cyn iddynt ddatblygu. 

Byddwn i'n dweud mai'r her fwyaf hyd yma yw maint y gwaith - mae'r SYG yn sefydliad mawr iawn gyda gweithlu mawr, felly mae cyfleu'r neges a'r wybodaeth i bawb yn gallu bod yn heriol. Rydym wedi mynd i'r afael â hyn drwy flaenoriaethu cyfathrebiadau sy'n canolbwyntio ar y meysydd busnes sydd â'r cyswllt mwyaf â'r cyhoedd, a chynnal cyswllt rheolaidd â'n rhanddeiliaid allweddol. 

Dim ond pedwar mis sydd yna ers i ni gyflwyno’n cynllun newydd, ond rwy'n falch iawn o'r cynnydd rydym yn ei wneud. Rydym wir yn gweld newid pendant ar draws y busnes lle mae darpariaeth ddwyieithog ragweithiol yn cael ei hymgorffori o fewn prosesau a chynlluniau. Ein camau nesaf yw parhau â'r cynnydd yr ydym yn ei wneud i gyd-fynd â’r cynllun gweithredu, ac i weithio ar draws y Gwasanaeth Sifil gyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid wrth rannu arfer gorau, gyda’r nod yn y pen draw o wella ein gwasanaethau ar gyfer defnyddwyr Cymraeg eu hiaith. 

Ruth Studley 

Cyfarwyddwr Newid Ystadegau Poblogaeth a Mudo Pencampwr Iaith Gymraeg 

Swyddfa Ystadegau Gwladol 

 

Yn y llun uchod:
Cerys Evans – Cynghorydd Polisi’r Iaith Gymraeg
Syr Ian Diamond – Yr Ystadegydd Gwladol
Efa Gruffudd Jones – Comisiynydd y Gymraeg
Lewis Owen – Uwch-gynghorydd Polisi’r Iaith Gymraeg
Michael Willmott – Pennaeth Polisi a Chydlynu GSS