Nadolig plentyn yng Nghymru’n cael ei wneud yn hudol gan NSPCC

Wrth i blant Cymru anfon llythyrau at Begwn y Gogledd eleni, mae yr NSPCC wedi penderfynu ysgrifennu llythyrau Cymraeg ar ran Siôn Corn.  

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cydweithio â’r NSPCC a nifer o elusennau yng Nghymru, ac yn cynnig arweiniad a chyngor iddynt ar ddefnyddio’r Gymraeg yn effeithiol yn eu gwaith.  

Mae’r NSPCC yn cynnig gwasanaeth ysgrifennu llythyr ers ugain mlynedd. Eleni, maent eisiau annog rhagor o blant Cymru i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Meddai eu swyddog datblygu, Siân Regan:  

"Does dim byd yn cyfleu hud y Nadolig fel llythyr gan Siôn Corn. Dyna pam mae ymgyrch llythyr gan Siôn Corn NSPCC, yn annog ein cefnogwyr i archebu llythyr personol gan Siôn Corn ar gyfer y rhai bach. Mae'r llythyrau hyn, sy'n cael eu hysgrifennu gan Sion Corn, yn llawn hanesion Nadoligaidd am Begwn y Gogledd, ac yn cael eu personoli i bob plentyn.” 

“Nod yr NSPCC yw gwneud y llythyrau hyn mor gynhwysol â phosibl, gan gydnabod nad oes dau deulu yr un fath. Mae'n bwysig iawn i ni ein bod yn cynnig y llythyrau hyn yn Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg. Mae gallu darparu gwybodaeth a gwasanaethau yn y Gymraeg yn bwysig iawn i'r NSPCC o ran ein helpu i gyflawni ein nod o atal cam-drin ac esgeuluso plant. 

Rydym yn falch iawn bod y llythyrau hyn ar gael yn y Gymraeg ac maent bob amser yn boblogaidd gyda'n cefnogwyr. Mae cardiau Nadolig dwyieithog hefyd ar gael i’w harchebu o'n siop ar-lein.” 

Mae Jane Edwards Swyddog Hybu gyda Chomisiynydd y Gymraeg, wedi bod yn gweithio gyda’r elusen dros y misoedd diwethaf, ac yn canmol eu hymrwymiad i’r Gymraeg. Meddai Jane:  

“Mae nifer o blant yng Nghymru yn cael eu magu ar aelwydydd uniaith Gymraeg, ac mae’r iaith Saesneg yn estron iddynt. Mae hi’n bwysig felly eu bod yn gallu anfon llythyr Cymraeg ato, a derbyn llythyr Cymraeg yn ôl. Gwyr pawb fod Siôn Corn yn medru pob iaith, ac rydym yn ddiolchgar i ‘r NSPCC am gynnig y gwasanaeth arbennig hwn i blant Cymru. Mae’n cyfoethogi profiad cymaint o blant dros gyfnod y Nadolig.”   

Os ydych chi’n gweithio i elusen, ac eisiau datblygu eich gwasanaethau Cymraeg, mae croeso i chi gysylltu â hybu@cyg-wlc.cymru 

DIWEDD 

Nodiadau i’r golygydd:  

  • Mae gweithdy Siôn Corn ar agor a gallai pob rhodd helpu Childline i fod ar gael i blant sydd angen rhywun i wrando'r Nadolig hwn - 7 diwrnod yr wythnos, 24 awr y dydd, hyd yn oed ar Ddydd Nadolig. Mae gan ein gwefan Childline dudalennau cyngor yn Gymraeg a gwybodaeth am sut y gall pobl ifanc siarad â chwnselydd sy'n siarad Cymraeg. 
  • Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn dathlu diwrnod Cynnig Cymraeg dydd Iau, 27 Ionawr. Dyma ddiwrnod i ddathlu’r holl fusnesau ac elusennau sydd wedi derbyn y cynnig hyd yn hyn. Byddwn hefyd yn ceisio annog eraill i wella eu gwasanaethau Cymraeg ac i ymrwymo i’r Cynnig. Ein gobaith gyda’r diwrnod ydi dangos i'r cyhoedd pa wasanaethau Cymraeg sydd ar gael gan ba sefydliad, a'u hannog i ddefnyddio’r gwasanaethau Cymraeg hynny. 
  • Cynnig Cymraeg yw cydnabyddiaeth swyddogol y Comisiynydd i sefydliadau sydd wedi creu cynllun datblygu'r Gymraeg. Mae rhagor o wybodaeth yma: Cynnig Cymraeg (comisiynyddygymraeg.cymru)