Comisiynwyr Iaith o ar draws y byd i gyfarfod yng Ngwlad y Basg wrth i Gymru baratoi i gymryd rôl flaenllaw

Bydd cynhadledd ryngwladol, fydd yn ystyried sut i fynd i’r afael ag amddiffyn hawliau ieithyddol dinasyddion ledled y byd, yn cael ei chynnal yr wythnos hon (7, 8 Medi) yn ninas Bilbao yng Ngwlad y Basg.

Am y tro cyntaf ers y pandemig bydd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith (IALC) yn cynnal eu cynhadledd ryngwladol a chyfarfod cyffredinol blynyddol a bydd Cymru yn chwarae rhan flaenllaw.    

Yn ogystal ag arwain trafodaethau ar effaith y pandemig ar waith Comisiynwyr ac Ombwdsmyn, yn benodol o safbwynt rheoli achosion ac ymchwiliadau yn effeithiol a rhannu arfer da am gyfathrebu ym maes iaith, bydd y gynhadledd hefyd yn cyhoeddi mai Comisiynydd y Gymraeg fydd yn gyfrifol am gadeiryddiaeth y Gymdeithas am y blynyddoedd nesaf.

Mae hyn yn golygu mai Cymru fydd cartref y gynhadledd nesaf ymhen dwy flynedd sydd yn dipyn o anrhydedd yn ôl Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Gwenith Price,

“Mae’n braf yn gyntaf gweld y gynhadledd yn dychwelyd yn dilyn y toriad anorfod yn sgil y pandemig. Fel ym mhob maes mae Covid-19 wedi cael effaith bellgyrhaeddol ar bolisïau iaith a bydd y gynhadledd hon yn gyfle i ni ystyried y goblygiadau a sut i fynd i’r afael â nhw.

“Dros y blynyddoedd mae’r cyfle i drafod a meithrin rôl Comisiynwyr Iaith yn ogystal â rhannu arferion effeithiol â gwledydd eraill wedi bod yn rhan greiddiol o’n gwaith ac mae’n hollbwysig fod y gwaith hwnnw yn parhau.

“Rwy’n hynod o falch mai Cymru fydd yn derbyn y gadeiryddiaeth yn dilyn y gynhadledd hon. Mae’n arwydd o’r statws sydd gan Gymru o fewn i’r Gymdeithas a’n rôl bwysig yn arwain ar sawl agwedd o waith y Gymdeithas. Bydd yn gyfle i ni hyrwyddo ymhellach rôl a statws Comisiynydd y Gymraeg yma yng Nghymru a thu hwnt, ac edrychwn ymlaen at allu croesawu’r cynrychiolwyr rhyngwladol i Gymru ymhen dwy flynedd.”

Nod Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith yw i gefnogi a hyrwyddo hawliau, cydraddoldeb ac amrywiaeth ieithyddol ledled y byd a chefnogi Comisiynwyr Iaith fel eu bod yn gallu gweithio gan gadw at y safonau proffesiynol uchaf.

Bydd Cymru yn arwain ar drafodaethau strategol am yr heriau sy’n wynebu Comisiynwyr wrth reoleiddio a sut i fynd i'r afael yn effeithiol ag ymchwiliadau a chwynion tra’n ystyried sut mae eraill, megis Gwlad y Basg, Canada a Fflandrys yn delio â’r heriau cyffredin hyn.

Bydd trafodaeth ehangach yn ystyried effaith y pandemig ar ieithoedd swyddogol a lleiafrifol ac yn benodol ei effaith ar y sector addysg a dewisiadau rhieni am addysg drochi.

Bydd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg hefyd yn manteisio ar y cyfle i gyfarfod â Chadeirydd presennol y Gymdeithas, Raymond Théberge, Comisiynydd Ieithoedd Swyddogol Canada a byddant ill dau yn bresennol mewn cyfarfod arbennig ag Arlywydd Gwlad y Basg a’r Gweinidog sy’n gyfrifol am Ddiwylliant a Pholisi Iaith. 

Cynhelir y gynhadledd yn Bilbao ar 7 a 8 Medi 2022 a gellir cael mwy o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen hon:  International Association of Language Commissioners - Cynhadledd 2022