Y Gymraeg – eich arf codi arian

Sut mae defnyddio’r Gymraeg yn helpu elusennau i godi arian.

Mae defnyddio’r Gymraeg yn bwysig i bobol yng Nghymru. Gallwch glywed a gweld y Gymraeg ledled y wlad, mewn pob math o sefyllfaoedd - o arwyddion ar y stryd fawr, i fwydlenni mewn bwytai, i gyfarwyddiadau ar beiriant twll yn y wal, i gyhoeddiadau sain mewn archfarchnadoedd. Mae’r cyhoedd felly wedi arfer ac yn disgwyl gweld y Gymraeg. 

Wrth feddwl am hyn, mae’n bwysig felly fod elusennau yn gwneud ymdrech i ddefnyddio’r Gymraeg. Mae 75% o siaradwyr Cymraeg yn credu y dylai elusennau weithredu'n ddwyieithog, gydag aelodau o’r cyhoedd yn credu bod “dwyieithrwydd yn ehangu pwy sy’n mynd i gefnogi”[1]. Gall defnyddio’r Gymraeg helpu elusennau i:

  • ennyn parch y cyhoedd
  • greu perthynas ac i ennill teyrngarwch
  • agor y drws i gefnogaeth gan gynulleidfaoedd newydd
  • greu’r teimlad eu bod yn elusen ‘lleol’
  • wneud sefyllfaoedd anodd yn fwy cyfforddus i ddefnyddwyr gwasanaeth
Codi arian, Achub y Plant

Ond yn ogystal â’r pwyntiau uchod, mae defnyddio’r Gymraeg yn help i ymdrechion codi arian elusennau yng Nghymru. Rydym wedi siarad gyda sawl elusen er mwyn gallu rhannu enghreifftiau real o’r gwaith yma sydd eisoes yn digwydd. Mae defnyddio’r Gymraeg wedi bod yn fanteisiol i’r sefydliadau hyn, a gall pob un o’r enghreifftiau isod fod yn syniadau i chi eu rhoi ar waith. 

Codi Arian, Shelter Cymru
Merch yn gwisgo cot a bag Shelter Cymru
Codi arian, Barnados
Codi arian, Achub y Plant
Tim Tir Ddewi y codi arian
Pwyntiau ychwanegol i’w hystyried
  • Mae Macmillan Cymru wedi cael eu dewis fel elusen y flwyddyn sawl Cyngor Tref ar ôl ysgrifennu yn Gymraeg atynt.
  • Mae cael llywydd a llysgenhadon Cymraeg yn bwysig i Shelter Cymru. Mae hyn yn bwysig i gyrraedd y gynulleidfa Gymraeg, ac yn helpu unigolion i uniaethu. Mae Bryn Terfel yn llywydd a Rhys Ifans yn llysgennad i’r elusen.
  • Mae elusennau sy’n gweithio ar draws y Deyrnas Unedig yn credu ei bod hi’n bwysig defnyddio enw Cymraeg ar gyfer yr elusen, neu ychwanegu ‘Cymru’ at yr enw. Mae hyn yn gwneud i unigolion yng Nghymru sylweddoli fod yr elusennau yn gweithredu yng Nghymru, a bod yr arian yn mynd i helpu yn lleol. Mae Barnardo’s Cymru yn un enghraifft o hyn.
  • Mae’r British Heart Foundation yn defnyddio BHF Cymru wrth weithredu yng Nghymru. Nid ydynt yn defnyddio’r ‘British’, ac mae defnyddio enw Cymraeg yn bwysig er mwyn i siaradwyr Cymraeg uniaethu gyda’r elusen. Yn y pendraw, gall hyn annog mwy o unigolion i gyfrannu. Gall ychwanegu ‘Cymru’ at enw eich elusen fod o fudd.
  • Mae ysgrifennu at y papurau bro yn help i greu hunaniaeth Gymreig, ac i greu cysylltiadau lleol iawn. Wrth wneud hyn mae unigolion yn uniaethu gyda’r elusen ac yn fwy parod i gyfrannu. Gallwch hefyd gyfrannu straeon a rhannu gwybodaeth am ddigwyddiadau am ddim ar wefannau Bro360. Yr oll sydd angen i’w wneud yw creu cyfrif. Mae lleol.cymru hefyd yn wefan ble gallwch rannu gwybodaeth am ddigwyddiadau ar ôl dod yn aelod.
Cynnig Cymraeg
Ewch amdani

Pa rai o’r enghreifftiau hyn gall eich elusen chi ei wneud? Rhowch gynnig arni er mwyn gweld sut gall defnyddio’r Gymraeg eich helpu chi i godi arian.  

Ac mae Tîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg ar gael i'ch helpu. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o elusennau, a gallwn gynnig cymorth ac arweiniad er mwyn eich galluogi i roi'r syniadau yma ar waith. 

Mae’r Tîm Hybu yma er mwyn eich helpu i ddatblygu eich holl wasanaethau Cymraeg. Gallwch weithio gyda ni i greu Cynllun Datblygu’r Gymraeg, ac wrth wneud hyn gallwch dderbyn cymeradwyaeth swyddogol y Comisiynydd, Cynnig Cymraeg. 

Cysylltwch gyda’r Tîm Hybu heddiw ar hybu@cyg-wlc.cymru am fwy o wybodaeth, neu i drefnu sgwrs.