Rydym yn cynnig gwasanaeth gwirio testun dwyieithog yn rhad ac am ddim, hyd at 1000 o eiriau (Cymraeg). Os hoffech i ni wirio testun ar gyfer posteri, taflenni neu'r cyfryngau cymdeithasol, gallwch gysylltu â ni.
Byddwn yn gweithio gyda chi i fagu hyder wrth i chi ddefnyddio’r Gymraeg ac i sicrhau bod y gwaith yn gywir.
Beth am wylio'r fideo i ddysgu mwy am ein gwasanaeth prawfddarllen?
Gall Helo Blod (gwasanaeth gan Lywodraeth Cymru) gyfieithu hyd at 500 gair i’r Gymraeg, bob mis, am ddim ar gyfer eich busnes neu elusen. Maent hefyd yn cynnig cyngor a gwybodaeth wedi ei deilwra yn arbennig ar gyfer busnesau bach.
“Mae wedi’n galluogi i fod yn sicr bod y deunydd ni’n cynhyrchu yn y Gymraeg yn gywir, ac mae’n golygu ein bod wedi gallu cynyddu ein defnydd o’r Gymraeg, rhywbeth all ond wella profiad ein hymwelwyr o Gymru a thu hwnt.”
Rheilffordd yr Wyddfa
"Mae gwasanaeth prawfddarllen am ddim Comisiynydd y Gymraeg yn ddefnyddiol iawn ar gyfer gwirio darnau byr o destun fel penawdau ar gyfer dogfennau a theitlau swyddi."
Canolfan Cydweithredol Cymru